Mae National Theatre Wales wedi penodi cyfarwyddwr artistig newydd.

Fe fydd Lorne Campbell, sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Artistig Northern Stage, yn olynu Kully Thiarai.

Bydd Lorne Campbell yn dechrau yn y swydd yn ystod gwanwyn 2020.

Dechreuodd y cyfarwyddwr theatr o’r Alban, Lorne Campbell, ar ei yrfa yn Traverse Theatre yng Nghaeredin ac yn fwyaf diweddar bu’n Gyfarwyddwr Artistig ar Northern Stage.

Mae uchafbwyntiau ei gyfnod yn Northern Stage yn cynnwys The Bloody Great Border Ballad (2015) Get Carter (2016) a The Last Ship (2018), a gwaith arddangos Northern Stage yng Ngŵyl Ymylol Caeredin.

Cyn mynd i Northern Stage, gweithiodd Lorne Campbell fel cyfarwyddwr theatr llawrydd, gan greu cynyrchiadau ar gyfer theatrau Everyman a Playhouse yn Lerpwl, Birmingham Rep, Theatre Royal Caerfaddon, Traverse Theatre, The Almeida a Hull Truck.

“Mae’n argoeli’n hynod o gyffrous i fod yn ymuno â National Theatre Wales fel Cyfarwyddwr Artistig, a hefyd mae yna dristwch mawr i fod yn gadael Northern Stage ar ôl chwe blynedd a hanner,” meddai Lorne Campbell.