Fe fydd mudiad YesCymru Abertawe yn lawnsio nosweithiau comedi newydd sbon heno, gyda dwy sioe fydd yn ymddangos yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth ddiwedd y mis.

Ychydig fisoedd yn unig sydd ers i’r gangen gael ei sefydlu yn y ddinas, ac mae hi eisoes wedi denu cryn sylw yn yr ardal gyda rali yn Sgwâr y Castell y ddinas ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf.

Ymhlith y siaradwyr bryd hynny roedd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Heledd Gwyndaf, yr academydd Daniel G Williams a’r gwleidydd Gwynoro Jones.

Pwy yw YesCymru?

Nod mudiad YesCymru yw ennill annibyniaeth i Gymru er mwyn gwella’r ffordd mae’r wlad yn cael ei llywodraeth.

Maen nhw’n credu mewn dinasyddiaeth gynhwysol, sy’n croesawu a dathlu’r ffaith fod pawb – o ba gefndir bynnag – sy’n dewis gwneud Cymru’n gartref yn ddinasyddion llawn yn y Gymru newydd.

Maen nhw’n cyflwyno’r achos fod Cymru’n well yn rheoli eu hunain fel rhan o deulu Ewropeaidd a rhyngwladol ehangach.

Dau Gymro balch

Un o drigolion yr ardal, Steffan Alun fydd yn cloi noson ‘Stand Up for Wales’ yn nhafarn y Schooner heno, ac fe fydd yn cael ei gefnogi gan y comedïwr o Borth yng Nghwm Rhondda, Phil Cooper.

“R’yn ni’n falch iawn o gael croesawu dau gomedïwr sy’n wynebau cyfarwydd ac yn berfformwyr poblogaidd yma yn Abertawe, i lansio ein noson fisol newydd,” meddai’r trefnwyr.

“Bydd y ddau yn perfformio ddiwedd y mis yn nhref Owain Glyndŵr, sylfaenydd y Senedd gyntaf i Gymru yn 1404, felly mae’n briodol i ni fel mudiad ein bod ni’n croesawu dau Gymro balch fydd yn perfformio yn y dref honno ddiwedd y mis i lansio ein nosweithiau comedi newydd.

“A pha well ffordd o ddechrau ein nosweithiau na thrwy arddangos rhai o’r talentau comedi gorau sydd gan Gymru i’w cynnig?”