Caryl Lewis, awdur drama Y Negesydd
Mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn cydweithio gyda Theatr Felinfach ar gyfer y cynhyrchiad nesaf, Y Negesydd. Bydd y cwmni yn cynnal cyfnod preswyl yn Theatr Felinfach yn Nyffryn Aeron yn ystod mis Ebrill ac yn creu rhaglen llawn o weithgareddau amrywiol yn yr ardal.

Drama newydd gan yr awdures Caryl Lewis yw Y Negesydd, a’r actores Ffion Dafis fydd yn cyfarwyddo. Dyma fydd y tro cyntaf i’r actores Amdani! a Rownd a Rownd gyfarwyddo drama lawn hyd.

Hanes Elsi yw Y Negesydd, a’r sibrydion sy’n poeni ei chymuned cefn gwlad. Mae Elsi’n sgwrsio gyda’r meirwon ac mae hyn yn anesmwytho ei chymuned draddodiadol. Ond ai rhodd neu groes i Elsi yw ei dawn anghyffredin? Dyma stori iasol y negesydd wrth iddi ail fyw nid yn unig ei gorffennol ei hun, ond boen a thrallod y gymdogaeth i gyd.

“Mae hi’n ddrama ddirdynnol am y tyndra oesol rhwng yr hen a’r ifanc,” meddai Caryl Lewis, awdur y nofel Martha, Jac a Sianco. “Mae yna themâu o wahaniaeth ac euogrwydd ac astudiaeth o’r broses greadigol ei hun. Fydd yna eiliadau iasoer fydd yn codi gwallt eich gwariau ond hefyd eiliadau o pathos wrth weld cymuned fach yn ffwndro yng nghwyneb newidiadau enfawr.”

Enillydd BAFTA Cymru am yr actores orau yn 2013 sef Sara Lloyd-Gregory, fydd yn chwarae’r brif ran yn y ddrama sydd wedi ei lleoli yng nghefn gwlad Ceredigion.

Bydd Y Negesydd yn agor yn Theatr Felinfach ar Fai 1, cyn teithio Cymru yn ystod y mis hwnnw.