Iona Jones
Yn ôl y disgwyl, mae S4C yn wynebu rhagor o drafferthion wrth i’r cyn-Brif Weithredwr ddod ag achos tribiwnlys yn ei herbyn.

Fel y cyhoeddodd Golwg360 wythnosau’n ôl, fe fydd Iona Jones yn cyhuddo Awdurdod y Sianel o’i diswyddo hi’n annheg ddiwedd Gorffennaf eleni.

Yn ôl y BBC, mae’r papurau bellach wedi eu cyflwyno ar ei rhan ac fe fydd y sianel yn awr yn cael cyfle i ymateb.

Dim esboniad

Ar y pryd, doedd Awdurdod S4C ddim hyd yn oed yn dweud a oedd Iona Jones wedi ymddiswyddo neu gael y sac a dydyn nhw ddim wedi rhoi esboniad am yr hyn ddigwyddodd.

Y digwyddiadau hynny a sbardunodd yr argyfwng o fewn yr Awdurdod, wrth i’r Llywodraeth yn San Steffan gynllunio i dorri tua 24% oddi ar arian y sianel a’i rhoi dan adain Ymddiriedolaeth y BBC.

Fe ddaeth y rheolwr darlledu profiadol, Arwel Ellis Owen, i gymryd swydd y Prif Weithredwr dros dro ond mae’r sianel hefyd wedi hysbysebu’r swydd barhaol.