Mae S4C wedi dechrau hysbysebu am Brif Weithredwr newydd, gan osod dyddiad cau cyn diwedd y mis.

Datgelodd Golwg 360 ddoe bod y sianel wedi penodi cwmni Odgers Berndtson er mwyn goruchwylio’r broses o ddod o hyd i brif weithredwr newydd.

Penodwyd Arwel Ellis Owen i’r swydd dros dro yn dilyn ymadawiad Iona Jones ym mis Gorffennaf, ond heddiw anfonwyd yr hysbysebion cyntaf i’w cynnwys yn y wasg.

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr fydd dydd Gwener, 26 Tachwedd.

Bydd yr hysbyseb yn ymddangos yng nghylchgrawn Golwg, y Guardian, y Daily Post, Western Mail a’r Cymro, ac ar wefan Odgers Berndtson fan hyn.

‘Her’

Mae’r hysbyseb yn galw am brif weithredwr wedi ei leoli yng Nghaerdydd, gyda chyflog “sy’n gymesur â swyddogaeth a phrofiad yr ymgeisydd llwyddiannus”.

“Mae Awdurdod S4C yn chwilio am Brif Weithredwr i arwain y Sianel drwy heriau a chyfleoedd y dyfodol,” meddai’r hysbyseb.

“Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar brofiad gweithredol ar lefel Bwrdd sydd wedi profi’r gallu i arwain cydweithredwyr mewn cyfnod o newid sylfaenol.

“Bydd o/hi hefyd yn dod â phrofiad o gyflwyno newidiadau cymhleth, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a gweithredu mewn swydd amlwg trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.”

Cwrdd â’r BBC

Cadarnhaodd S4C wrth Golwg 360 ddoe y bydden nhw’n cynnal eu cyfarfod cyntaf gyda Syr Michael Lyons, pennaeth Ymddiriedolaeth y BBC, dydd Llun nesaf, 8 Tachwedd.

Dan y drefn newydd fe fydd S4C yn rhan o’r BBC a bydd y gorfforaeth yn gorfod talu rhywfaint o gostau’r sianel allan o’r drwydded deledu.