Mae Aelod Seneddol Aberconwy, Guto Bebb, wedi dweud y gallai toriadau 25% S4C “greu problemau” i’r sianel.

Cadarnhawyd yn yr Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr heddiw y bydd cyllideb y sianel yn cael ei dorri 25% erbyn 2015 ac y bydd yn cael ei ariannu gan drwydded teledu’r BBC.

Mewn dadl yn Neuadd San Steffan, ychwanegodd Guto Bebb y byddai’n bosib cyfiawnhau’r toriadau i gyllideb S4C ar yr amod eu bod nhw’n “cyd-fynd gyda thoriadau gweddill yr adran”.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Ed Vaizey, y byddai S4C yn derbyn £90m yn 2011-12 ac yn derbyn £83m erbyn 2014-15.

Roedd hynny heb gyfri’r gwerth £20m o raglenni gan y BBC na’r £3m sy’n dod i mewn drwy hysbysebu.

Ychwanegodd ei fod o’n ystyried hynny’n “setliad ariannol hael” i’r sianel. Dywedodd bod gan y sianel “ddyfodol disglair” a bod Llywodraeth San Steffan yn ymroddedig i raglenni iaith Cymraeg.

“Mae gen i ddigon o ffydd ym mhobol Cymru i feddwl y bydden nhw’n edrych ar y ffigyrau yna a gweld eu bod nhw’n rhai hael,” meddai.

Fe fyddai annibyniaeth S4C yn parhau, meddai, ac ni fyddai’r BBC yn gallu cymryd unrhyw ran o gyllideb y sianel er eu defnydd nhw.

Tebyg i BBC Alba?

Yn ôl y BBC, roedd y llywodraeth wedi dweud nad oedden nhw’n ystyried S4C yn gynaliadwy ac felly bod angen rhoi’r sianel dan adain y gorfforaeth.

Yn ôl Cyfarwyddwr BBC Cymru, Menna Richards, fe fyddai’r model partneriaeth newydd yn “debyg, mewn egwyddor i BBC Alba”.

Ychwanegodd mai’r peth pwysicaf oedd bod “cynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith yn parhau i fwynhau gwasanaeth teledu sy’n nodedig ac o safon uchel”.