Steve Jones
Bydd y cyflwynydd teledu o Gymru, Steve Jones, ddim yn dychwelyd i gyflwyno cyfres nesaf The X Factor yn yr Unol Daleithiau.

Y cyn-gyflwynydd ar T4 oedd un o wynebau amlycaf y rhaglen yn yr Unol Delithiau pan gafodd ei lansio y llynedd.

Ond heddiw, dywedodd y Cymro na fyddai’n dychwelyd.

Dywedodd wrth ddilynwyr ar ei gyfrif Twitter heddiw na fyddai’n “cylfwyno X Factor  y tymor nesa’ sy’n drueni, ond alla’ i ddim cwyno gan bo’ fi ’di cael amser da. Pob lwc i bawb ar y sioe.”

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Fox, sy’n darlledu’r rhagen yn yr Unol Daleithiau, na fyddai Steve Jones, 34, na Nicole Scherzinger, un o feirniaid y rhaglen, yn dychwelyd am ail gyfres.

Yn wreiddiol, roedd Steve Jones i fod i gyflwyno’r rhaglen law yn llaw â Nicole Scherzinger, ond cafodd y cyn-aelod o’r Pussycat Dolls ei symud i’r panel beirniadu ar ôl i Cheryl Cole gael ei gollwng o’r panel, a hynny oherwydd adroddiadau bod ei hacen yn rhy gryf.

Yr wythnos diwethaf, awgrymodd Simon Cowell fod y Cymro wedi dod i ddiwedd ei daith gyda’r sioe, gan ddweud wrth y Daily Mirror ei fod wedi cael “amser digon caled. Dwi ddim yn meddwl ei fod wedi gwneud gwaith rhy ddrwg, ond fel America’s Got Talent, mae ’na uchafswm ar faint o ‘Brits’ all y rhaglen ei gymryd.”