Mae dau Gymro wedi’u henwebu am Oscar eleni am eu rolau yn y ffilm The Two Popes.

Mae Jonathan Pryce, sy’n enedigol o Sir y Fflint wedi’i enwebu am yr actor gorau am chwarae’r Pab Francis yn The Two Popes.

Ac mae Anthony Hopkins, o Margam yn Port Talbot, wedi’i enwebu am yr actor cynorthwyol gorau yn yr un ffilm.

Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw (dydd Llun, Ionawr 13) dywedodd Anthony Hopkins ei fod yn “fraint fawr” i gael ei enwebu.

Ond doedd dim enwebiad i’r Cymro arall, Taron Egerton, a gipiodd Golden Globe wythnos ddiwethaf am ei rôl yn chwarae Elton John yn Rocketman.