Digrifwr yn rhannu’r Cymry yn chwe math yn ei gyfres newydd

Diweddarwyd  
Elis James

Elis James fel ffermwr yn y gyfres ‘Nabod y Teip’

Llun: S4C

Ar ôl bod yn twrio yn archif deledu Cymru ar gyfer ei gyfres ddiwethaf, Cic Lan yr Archif, y Cymry fel pobol sy’n cael sylw’r digrifwr Elis James yn ei gyfres newydd Nabod y Teip sy’n dechrau ar S4C nos Fercher (Mehefin 12).

Mae’n grwpio’r Cymry i chwe chategori – cwynwyr, pencampwyr, ffermwyr, y Fam Gymreig, perfformwyr a chymeriadau sebonllyd.

Pencampwyr

Yn y bennod ar bencampwyr, mae’n ateb cwestiwn oesol y Cymry – ai rygbi neu bêl-droed yw ein camp genedlaethol?

Ond mae hefyd yn rhoi sylw i dynnu rhaff, tipit neu ‘hot gwerin’, sef cymysgedd o symudiadau traddodiadol a gwres.

Ffermwyr

A’i dafod yn ei foch, mae’n mynd â’r drafodaeth i dir newydd yn y bennod ar ffermio.

“Yn ôl yr ystadegau, mae bron i 90 y cant o dirwedd Cymru yn dir amaethyddol,” meddai.

“A thra bo nhw’n dweud yn Llundain bo’ chi fyth mwy na chwe throedfedd i ffwrdd o lygoden fawr, yng Nghymru chi fyth mwy na llathen o ffarmwr!”

Y Fam Gymreig

A phe na bai hynny’n ddigon i godi ofn arnon ni’r Cymry, mae’n camu’n ôl i oes y Llyfrau Gleision ac yn darogan tranc y genedl gyfan ac eithrio ambell grŵp arbennig o Gymry.

“Ar ôl yr apocalyps, dim ond y Fam Gymreig a llwyth o cockroaches fydd ar ôl,” meddai.

Perfformwyr

Mae perfformio “yng ngwaed y Cymry”, meddai wrth drafod y drydedd bennod yn y gyfres, sy’n canolbwyntio ar y categori ‘perfformwyr’.

“Ym mha wlad arall mae pobol yn harmoneiddio’r gân Pen-blwydd Hapus? Ble arall yn y byd cewch chi bobol yn beirniadu safon y canu mewn angladd?

“Ym mha ddiwylliant arall fyddai’r brawddegau yma yn gyffredin: ‘ma’ fe’n glocsiwr enwog’, ‘roedd hi’n arfer cyfeilio i fi ar y delyn’, ‘fe yw’r Archdderwydd gwaethaf erioed’?”

Sebonwyr

Yn y bennod ar operâu sebon, cawn ein tywys i fyd Pobol y Cwm, Rownd a Rownd a Dinas, wrth i ni glywed mwy am y baddie, y deryn a’r fatriarch.

“Mae operâu sebon yn casglu stereoteips cenedlaethol at ei gilydd mewn un lleoliad cyfleus,” yn ôl dadansoddiad Elis James.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn