“Sioc ond balchder enfawr” a deimlodd Owain Tudur Jones ar ôl i gyfres S4C, Cic ddod i’r brig yng ngwobrau BAFTA Cymru nos Sul (Hydref 14).

Mewn seremoni fawreddog yn Neuadd Dewi Sant, daeth y gyfres sy’n cael ei chyflwyno gan gyn-bêldroediwr Cymru i frig y categori Rhaglen Blant.

Mae cyn-chwaraewr canol cae Cymru yn un o ddau gyflwynydd y rhaglen, ynghyd â Heledd Anna, wrth i S4C roi’r cyfle i blant ddysgu mwy am sgiliau pêl-droed gan rai o’u harwyr – yn eu plith mae Joe Allen, Hal Robson-Kanu a Chris Gunter, yn ogystal ag is-reolwr Cymru, Osian Roberts.

Ond nid yn unig sgiliau pêl-droed cyffredin sy’n cael eu profi. Mae’r gyfres hefyd yn rhoi’r cyfle i blant a phobol ifanc roi cynnig ar bêl-droed zorb, Golff Troed, Llaw-bêl, Dartiau Troed a Phêl-gol Baralympaidd.

Ac yn union fel pêl-droed go iawn, mae’r cystadleuwyr yn cael profion ffitrwydd gan ffisiotherapyddion y tîm cenedlaethol, ac yn rhoi cynnig hefyd ar ddyfarnu.

‘Camp fwyaf Cymru’

Ar ôl derbyn y wobr, dywedodd Owain Tudur Jones wrth golwg360 mai pêl-droed yw “camp fwyaf Cymru” ers i’r tîm cenedlaethol ysbrydoli’r genedl yn ystod cystadleuaeth Ewro 2016.

“Mae pêl-droed yn gamp mor boblogaidd yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae ’na bob amser y ddadl, be’ ydi camp fwya’ Cymru – rygbi neu bêl-droed?’

“Fel oedd yr Ewros yn mynd ymlaen, wnaeth o dyfu’n enfawr. Mae o wedi cyrraedd y pwynt lle ’dan ni ddim yn gorfod dewis rhwng rygbi a phêl-droed. Mae ’na le i’r ddau.

“Ond oherwydd y llwyddiant yna, mae lot mwy o blant efo arwyr yn y byd pêl-droed. Dros y blynyddoedd cyn yr Ewros, falle bod plant yn ymwybodol o un chwaraewr neu rai o’r chwaraewyr amlyca’. Ond wnaeth y gystadleuaeth yna ddod â’r wlad at ei gilydd mewn ffordd ’dan ni erioed wedi’i weld o’r blaen.”

‘Mae yna gyfle i bawb gicio pêl’

Yn ôl Owain Tudur Jones, diben y gyfres yw dangos y gall pawb, beth bynnag yw eu gallu, gicio pêl o ryw fath.

“Nid pawb sy’n mynd i droi allan i fod yn bêl-droediwr anhygoel, ond mae yna gyfle i bawb gicio pêl mewn un modd neu’r llall. Dyna oedd y syniad tu ôl i’r rhaglen yma.”

Serch hynny, mae’r gyfres yn fodd i blant a phobol ifanc weld bod rhai o’u harwyr yn Gymry Cymraeg yn chwarae ar y lefel uchaf.

“Mae’n bwysig ofnadwy. Er bod un neu ddau [Gymro Cymraeg] wedi gadael y garfan, yn nhîm mwya’ llwyddiannus Cymru erioed, mae Joe Allen, Ben Davies, David Vaughan, Owain Fôn Williams, Osian Roberts ar y tîm hyfforddi.

“Mae’n help mawr, o ran gwneud y rhaglen, bo ni ddim jyst yn mynd at y chwaraewyr sy’n siarad Cymraeg, ond hefyd Chris Gunter a Hal Robson-Kanu i gael eu sylwadau nhw hefyd.

“Ond roedd bechgyn fel Joe Allen a Ben Davies yn agored i ni fynd i siarad efo nhw.”