Mae’r Gymraes June Bernicoff yn gadael y gyfres deledu boblogaidd Gogglebox.

Daw ei phenderfyniad yn dilyn marwolaeth ei gŵr Leon. Roedden nhw wedi bod yn briod ers 1960.

Cafodd June Bernicoff ei geni yn Nhredegar ym Mlaenau Gwent.

Roedd y pâr ymhlith cast gwreiddiol y gyfres pan gafodd ei darlledu am y tro cyntaf ar Channel 4 yn 2013.

Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd June Bernicoff ei bod hi wedi cael “antur fawr”.

Enillodd y gyfres wobr y Rhaglen Adloniant Orau yn y Gwobrau Teledu Cenedlaethol yn ddiweddar.