Wynebau adnabyddus Cymru, yn hytrach na ffermwyr, fydd yn herio ei gilydd yn y gyfres newydd o Fferm Ffactor ar S4C eleni.

Mae’r gystadleuaeth bellach yn ei nawfed cyfres, a’r tro hwn, fe fydd dwsin o selébs Cymru yn cael eu rhannu’n bedwar tîm er mwyn herio ei gilydd am y wobr o £3,000 a fydd yn cael ei rhoi i elusen o’u dewis.

Yn eu plith, mae’r chwaraewr rygbi, Nathan Brew; y DJ a’r cynhyrchydd radio, Dyl Mei; a chyfarwyddwr ysgol berfformio Glanaethwy, Cefin Roberts, ac fe fyddan nhw’n cael eu rheoli gan y capteiniaid Elen Pencwm, Ioan Doyle, Bethan Gwanas a Gareth Wyn Jones.

Yn dychwelyd i’r gyfres hefyd mae’r beirniaid Caryl Gruffydd Roberts, Richard Tudor a Wyn Morgan, gydag Ifan Jones Evans yn gyflwynydd.

Capten “dan anfantais”

Wrth sôn am ei phrofiad yn ffilmio’r gyfres, mae’r awdures Bethan Gwanas yn dweud ei bod hi’n teimlo “dan anfantais”, oherwydd y prinder gwybodaeth am ffermio sydd ganddi. Er mai enw y fferm y magwyd hi arni, ydi’r ‘Gwanas’ yn ei henw.

“Roedd o’n rhwystredig i mi oherwydd fy mod i’n gaptan, ac mae captan i fod efo gwybodaeth amaethyddol,” meddai wrth golwg360. “Ond merch ffarm ydw i – nid ffarmwr – felly ro’n i braidd yn nerfus”.

“Dw i heb weithio ar y ffarm ers blynyddoedd, ar wahân i hel defaid, a dw i heb wneud hynny er blynyddoedd.

“Ond fe gawson ni hwyl gyda’r beirniaid a’r criw … a’r hwyaid.”

Fe fydd y rhaglen gyntaf o’r gyfres newydd o Fferm Ffactor yn cael ei darlledu nos Fawrth (Chwefror 6) am 8yh.

Y timau 

O’r chwith i’r dde: Nathan Brew, Elen Pencwm ac Alun Williams

 

O’r chwith i’r dde: Cefin Roberts, Linda Brown a Ioan Doyle

 

Tim Llyr Evans, Bethan Gwanas a Dyl Mei

 

Gareth Wyn Jones, Sian Lloyd a Stifyn Parri