Mae golwg360 ar ddeall bod rhaglen Clwb ar S4C ar fin dod i ben.

Mae Clwb yn cael ei gynhyrchu gan gwmni Rondo yng Nghaernarfon ac yn darlledu gemau rygbi a phêl-droed, ond hefyd yn rhoi sylw i gampau llai amlwg a chwaraeon merched.

Clwb wedi crebachu

Cafodd y rhaglen ei lansio yn 2014 fel rhaglen fyw chwe awr o hyd cyn troi’n rhaglen fyrrach oedd yn cael ei darlledu pob ddydd Sul, ac yn 2016 cafodd rhaglen uchafbwyntiau ei lansio o’r enw Clwb 2.

Mae’r rhaglen yn cael ei chynhyrchu yn bennaf mewn stiwdio £400,000 yng Nghaernarfon oedd wedi ei greu yn benodol er mwyn darlledu’r rhaglen.

Gofynnodd golwg360 i S4C a Rondo am ymateb ond nid oedden nhw am roi sylw.