Kevin Brennan - eisiau addewid gan y Llywodraeth (Llun Trwydded Agored y Llywodraeth)
Mae aelod o gabinet y Blaid Lafur yn San Steffan wedi galw ar Lywodraeth Prydain i rewi unrhyw doriadau ariannol posib i S4C.

Mae Kevin Brennan, Gweinidog Cysgodol y Blaid Lafur tros Ddiwylliant, wedi galw hefyd am gyhoeddiad Ddydd Gŵyl Dewi i egluro beth yw manylion arolwg gwario arfaethedig.

Mae Llywodraeth Prydain yn “llusgo traed” wrth beidio â datgelu pa bryd y byddan nhw’n cynnal yr arolwg, meddai Kevin Brennan, gan alw am gyhoeddi cylch gwaith yr arolwg.

“Dw i’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cofio Dydd Gŵyl Dewi eleni drwy ddatgan y Cylch Gwaith a chyhoeddi bod y toriadau ariannol wedi eu rhewi.”

‘Dryswch’

Mae Kevin Brennan wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o fod yn “ddryslyd” o ran dyfodol S4C wrth iddyn nhw gyhoeddi yn 2015 y byddai’r cyllid blynyddol yn cael ei gwtogi o £1.7 miliwn erbyn 2020.

Ond ymhen rhai misoedd, cafodd y toriad hwnnw ei ohirio gyda chyhoeddiad am arolwg i drefn gyllido’r sianel.

“Fel petai’r dryswch yma ddim yn ddigon, ym mis Ionawr nododd y Llywodraeth y bydd cyfraniad y Llywodraeth i S4C yn lleihau o £6.762 miliwn y flwyddyn ariannol yma, i £6.058 miliwn y flwyddyn ganlynol.

“Hynny yw, datganwyd bod toriadau ariannol yn mynd yn eu blaen cyn hyd yn oed cychwyn yr adolygiad ynglŷn ag ariannu.”

Yn ddiweddarach, nododd yr Adran Ddiwylliant fod gweinidogion yn edrych eto ar y bwriad i dorri.

Manteision economaidd

Mae Kevin Brennan wedi mynegi pryder y gallai’r toriadau arwain at waredu â’r gwasanaeth is-deitlau, gan ddadlau hefyd fod S4C yn cynnig dadleuon economaidd i Gymru.

“Mae pob £1 a fuddsoddwyd yn y sianel a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru wedi cyfrannu £2.09 at yr economi yn y flwyddyn 2014/5,” meddai Kevin Brennan.

“Mae 81% o’u cyllid yn mynd yn syth i’r sector cynhyrchu annibynnol… Gall nifer o ddarlledwyr llawer mwy ym Mhrydain ddilyn ei esiampl,” ychwanegodd.

Parhau i bwyso

Dywedodd y byddai’n parhau i bwyso am atebion i’r “negesuon anghyson” a’r gwastraffu amser.”

Yn y cyfamser, mae un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi heddiw eu bod am gynnal eu hadolygiad eu hunain i ddyfodol S4C ac wedi galw am farn y bobol am safon rhaglenni S4C.