Peter Capaldi Llun: PA
Ar ôl i Peter Capaldi gyhoeddi ei fod yn gadael Doctor Who ar ddiwedd y flwyddyn, mae dilynwyr y rhaglen, sy’n cael ei ffilmio yng Nghaerdydd, wedi galw am ddynes i gymryd ei le.

Mae Peter Capaldi wedi chwarae rôl y Doctor am dair cyfres ac fe fydd yn gadael ynghyd â chynhyrchydd gweithredol a sgriptiwr y rhaglen, Steven Moffat.

Gyda’r doctor presennol yn gadael, mae ffans Doctor Who wedi troi at drydar i gyfleu eu hawydd am ddoctor benywaidd i gymryd ei le yn y Tardis.

Y Doctor nesaf

Mae Michelle Gomez, Hayley Atwell ac actores y gyfres ‘Sherlock’, Amanda Abbington, wedi eu cynnig fel olynwyr posib i Peter Capaldi.

O ran y dynion mae Richard Ayoade, Rupert Grint a Ben Whishaw wedi dod i’r brig fel actorion posib i gymryd y rôl.