Dylan Llywelyn (Llun: S4C)
Mae angen mwy o gymorth seicolegol ar bobol sydd wedi’u heffeithio gan drychineb Hillsborough, yn ôl cynhyrchydd rhaglen deledu am y trychineb fydd yn cael ei darlledu ar S4C heno.

Yn ôl Dylan Llywelyn, sydd hefyd yn gefnogwr tîm pêl-droed Lerpwl a sylwebydd chwaraeon, roedd nifer wedi gwrthod bod yn rhan o’i raglen am fod siarad am y profiad yn parhau’n anodd.

“Mi wnaeth cwpwl o hogiau gytuno i gymryd rhan yn y rhaglen, ond mi ddaru nhw dynnu allan ar y funud olaf ddwywaith. Doeddan nhw jest methu wynebu fo,” meddai Dylan Llywelyn.

Bu farw 96 o bobol ym mis Ebrill 1989 wrth i Lerpwl herio Nottingham Forest, ac fe ddyfarnodd rheithgor y llynedd eu bod wedi’u lladd yn anghyfreithlon.

‘Cwmwl tywyll o amheuaeth’

Roedd Dylan Llywelyn yn y gêm y diwrnod hwnnw, ac er na ddioddefodd anafiadau corfforol, mae’n cydnabod iddo ysgwyddo baich meddyliol am bron i 28 mlynedd.

“Dwi wedi siarad ac ysgrifennu am Hillsborough o safbwynt y frwydr i gael at y gwir a sicrhau cyfiawnder, ond mae hynny’n hollol wahanol i siarad am fy nheimladau personol,” meddai.

“Yr hyn yr wyf wedi sylweddoli wrth wneud y rhaglen ddogfen yw bod llawer o bobol sydd wedi aros yn dawel o bosib iawn angen help i drafod eu profiadau a’u hemosiynau.

“Yr hyn wnaeth y cyfan yn waeth oedd y cwmwl tywyll o amheuaeth a’r pwyntio bys bythol at gefnogwyr Lerpwl a chymaint o amser y bu pobol yn coelio’r celwyddau, hefo arweinwyr honedig y sefydliad yn cynnal y twyll,” meddai wedyn.

Mae’r rhaglen Hillsborough: Yr Hunllef Hir i’w gweld ar S4C heno (Ionawr 24) lle bydd un o chwaraewyr mwyaf blaenllaw Lerpwl, Ian Rush, yn siarad am effaith y digwyddiad arno yntau.