Sian Gwynedd Llun: Golwg360
Mae cyn-Olygydd Radio Cymru, Sian Gwynedd wedi cael ei phenodi yn Bennaeth Cynhyrchu Cynnwys BBC Cymru.

Mewn datganiad gan y BBC, prif ddyletswydd Sian Gwynedd fydd “gyrru partneriaeth a datblygiad ar draws y gymuned gynhyrchu”. Mi fydd hi hefyd yn ymuno â bwrdd rheoli’r gorfforaeth.

Mae Richard Thomas hefyd wedi cael ei benodi yn Bennaeth Marchnata a Digidol.

Mae’r ddwy swydd newydd yma yn rhan o gynllun BBC Cymru i greu strwythur symlach fydd yn cyflymu penderfyniadau ac annog cydweithio.

“Mae Sian a Richard yn barod wedi cyflawni cymaint yn ystod eu hamser yn BBC Cymru,” meddai Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies.

“Bydd y ddau yn parhau i ddod a’u cryfderau a’u talentau i’r Bwrdd, gan helpu BBC Cymru i gyflawni ei gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.”