Fe fyddai’n braf gallu gwerthu cyfres dditectif Y Gwyll i’r byd yn Gymraeg, meddai’r cyfarwyddwr Ed Thomas. Ond cyn gallu gwneud hynny, mae angen buddsoddiad yn ein diwylliant, ac mae angen cydweithio.

Mae Ed Thomas yn ateb i flog fideo Craig ab Iago a gyhoeddwyd gan golwg360 bythefnos yn ôl, lle’r oedd y cynghorydd a’r ymgyrchu iaith yn dweud fod gwerthu Y Gwyll yn Saesneg yn dangos diffyg hyder yn yr iaith Gymraeg.

“Mae Denmarc wedi bod yn cydweithio gyda’r Iseldiroedd ers blynyddoedd er mwyn creu genre,” meddai Ed Thomas. “Ond r’yn ni’n rhedeg ma’s o amser i wneud hynny… mae’n rhaid i ni ymateb nawr.

“Dyna pam ydyn ni, wrth werthu Y Gwyll, r’yn ni wedi mynd o naught per cent i tua tri per cent.”

Mae angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi yn y diwylliant, meddai, ond hefyd mae angen cydweithio rhwng cwmnïau cynhyrchu yng Nghymru a thramor.

Gwrandewch ar Ed Thomas yn egluro’r sefyllfa yn y clip hwn: