Mae angen i bobol Cymru greu mwy o ffilmiau eu hunain i’w rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ôl arbenigwr ar y diwydiant ffilm yng Nghymru.

Mae Hywel Roberts o elusen Into Film Cymru yn dweud wrth golwg360 “does dim byd yn stopio” pobol Cymru rhag creu “sianeli eu hunain, creu ffilmiau eu hunain ac i hyrwyddo [eu ffilmiau] mewn gwyliau ffilm.”

Roedd yn siarad ar ôl lansiad hybu ffilm mewn addysg yr elusen yn y Cynulliad Cenedlaethol, oedd yn cynnwys lansio adnodd dwyieithog newydd ‘Cymru ar Ffilm’, sy’n dathlu talent Gymreig mewn ffilmiau yn y dosbarth.

Ffilmiau’r Cymry mewn gwyliau ffilm?

“Efo’r cyfryngau newydd, does dim byd yn stopio [pobol Cymru] rhag creu sianeli eu hunain, i greu eu ffilmiau eu hunain, ac i hyrwyddo fo mewn gwyliau ffilm,” meddai Hywel Roberts.

“Does dim isio meddwl, ‘dydan ni ddim yn llwyddo ym Mhrydain’, mae’r byd eang gynnon ni. Mae yna ffilmiau ysgolion yn gallu cael eu rhyddhau mewn gwyliau ffilm yn Toronto, Cannes, ledled Ewrop, ledled y byd…

“Mae isio peidio meddwl yn fach, mae eisiau rhannu’r straeon, achos straeon sy’n neud ffilmiau da, ac mae gan bawb stori i ddweud.”

Edrych yn bositif

Wrth gael ei holi am amlygrwydd y Gymraeg mewn rhaglenni, yn dilyn y trafod ynghylch Y Gwyll/Hinterland yn ddiweddar, dywedodd Hywel Roberts fod angen edrych ar bethau’n bositif.

“O ran yr iaith, mae’n anodd ond mae eisiau edrych ar y positif, bod y [Y Gwyll] wedi cael ei werthu dros y byd i gyd,” meddai.

“Mae hwnna’n gam ymlaen ac mae eisiau edrych ar hwnna fel rhywbeth positif a meddwl ‘mlaen, y cam nesa’ yw defnyddio pethau yn ein hiaith ein hunain.

“Mae ‘na ffilmiau Cymraeg i’w cael, [mae] jyst eisiau cael nhw wedi’u rhannu allan,” meddai gan gyfeirio at y ffilm Gymraeg, Dad, a enillodd wobr yn BAFTA Cymru eleni.

Ffilm yn ‘hybu llythrennedd’

Ychwanegodd fod ffilm yn gallu gwella llythrennedd plant a bod Into Film yn ceisio hybu defnydd ffilmiau yn yr ystafell ddosbarth.

“Beth sy’n dda efo ffilm ydy, achos bod o’n weladwy, mae o’n hawdd ac yn accessible i bob un disgybl, does dim ots am eu gallu addysgiadol nhw.

“Os ydyn nhw’n gallu gweld o, falle bod o’n haws i ddarllen ffilm na darllen llyfr er enghraifft, a thrwy hynny, maen nhw’n gallu mynd ati i drafod yn well.

“O be’ ydan ni wedi’i weld yn ein gwaith gydag ysgolion, mae yna lot fawr o ysgolion wedi dod nôl aton ni a dweud bod o’n helpu, yn enwedig gyda bechgyn, maen nhw’n gweithio ar ffilm yn y dosbarth a dydyn nhw ddim yn teimlo bod nhw’n gwneud gwaith.

“A nid yn unig gwylio ffilmiau wrth gwrs, maen nhw’n gallu mynd ati i greu ffilmiau eu hunain. Mae ‘na bedwar neu bump elfen o lythrennedd pur cyn iddyn nhw bigo fyny’r camera.

“So meddwl am y syniad, datblygu’r syniad i mewn i stori, datblygu’r stori i mewn i sgript, datblygu hwnna mewn i storyboard ac wedyn mynd ati i greu’r ffilm.

“Fel elusen, rydan ni’n hollol rad ac am ddim. Mae athrawon yn gallu creu cyfrif efo ni a thrwy’r cyfrif yna, maen nhw’n gallu lawrlwytho’r holl adnoddau sydd gennym ni ar ein gwefan.”