Sian Lloyd Llun: Hybu Cig Cymru
Mae’r gyflwynwraig deledu  Siân Lloyd wedi dweud bod ei “bywyd wedi newid yn llwyr” ar ôl iddi orfod delio a stelciwr.

Nid yw hi bellach yn medru mynd i unman heb orfod “edrych dros ei hysgwydd” ac mae hi’n byw ar bigau’r drain.

Fe ddatgelodd fanylion ar raglen Y Byd ar Bedwar, S4C am ddigwyddiad y llynedd lle derbyniodd hi lythyr yn ei chartref oedd wedi’i sgwennu a llaw. Roedd yn cynnwys darlun anweddus, gyda’r neges: ‘Mae hwn i ti ac mae llawer mwy ohonyn nhw’.

“Agorais i’r llythyr ac fe gwympodd ffotograff mas o’r amlen, roedd e’n ffiaidd, yn dangos rhan o gorff dyn wedi ei gyffroi’n rhywiol”, meddai.

‘Newid fy mywyd yn llwyr’

Er ei bod wedi cysylltu â’r heddlu ynglŷn â’r digwyddiad, nid yw’r dyn wedi cael ei adnabod, honnodd.

Mae hi wedi arfer â bod yn destun sylw dwys yn ystod ei gyrfa deledu, ond fe wnaeth y profiad hwn ei chreithio a’i throi i fod yn berson nerfus, meddai.

“Yn anffodus rwy’n meddwl bod e wedi newid fy mywyd yn llwyr. Roeddwn i’n arfer bod yn rhywun hyderus iawn nad oedd yn becso am bethe’ ac yn mynd o un peth i’r llall. Nawr rwy’n edrych dros fy ysgwydd yn feddyliol ac yn gorfforol drwy’r amser.”

Deddfau

Mae pedair blynedd wedi mynd heibio ers i ddeddfau yn erbyn stelcio gael eu cyflwyno yng Nghymru a Lloegr.

Dros y flwyddyn ddiwethaf (2015/16) mae mwy na 1,000 o achosion o erlyn wedi cael eu cynnal yn gysylltiedig â stelcio honedig yng Nghymru a Lloegr, o’u cymharu â 12,000 am y drosedd o aflonyddu.

Y ffurf fwyaf cyffredin yw stelcio gan bartner neu gynbartner ar ôl i berthynas ddod i ben, ond mae 10% o achosion o stelcio yn ymwneud â stelcwyr sydd ddim ag unrhyw gysylltiad blaenorol gyda’r dioddefwr.

Bydd y cyfweliad llawn ar Y Byd ar Bedwar nos Fawrth am 9.30yh ar S4C.