Frankie Boyle
Mae’r digrifwr Frankie Boyle wedi galw ar sianeli teledu i osod cwotâu er mwyn sicrhau bod amrywiaeth ethnig ar raglenni.

Dywedodd Frankie Boyle bod rheolwyr sianeli teledu yn dda am gwyno am y broblem ond nad ydyn nhw’n gwneud dim i newid y sefyllfa.

Yn siarad yn yr ŵyl deledu ryngwladol yng Nghaeredin, dywedodd y dylai sianeli osod cwotâu oherwydd eu bod wedi bod yn siarad am newid pethau ers blynyddoedd.

Wrth gyfrannu at sgwrs banel gyda’r ‘sgwennwr Sharon Horgan, dywedodd hefyd ei fod yn credu bod comedi Prydain wedi symud i le mwy diogel erbyn hyn, gyda llawer o gomedïau sefyllfa ysgafn ar y teledu ond bod dim llawer o bethau heriol i’w gwylio.

Awgrymodd hefyd bod pethau wedi newid ers y dirwasgiad economaidd yn 2008 a bod Michael McIntyre wedi dod yn un o ddigrifwr mwyaf yn y wlad ers hynny – o bosib oherwydd bod pobl eisiau dianc a pheidio meddwl am realiti bywyd.

Fodd bynnag, dywedodd Sharon Horgan ei bod yn obeithiol am y dyfodol, gan dynnu sylw at y cynnydd mewn lleoedd i ddod o hyd comedi.

Dywedodd bod gwefannau ffrydio fel Netflix ac Amazon yn rhoi’r pŵer i’r ‘sgwennwyr a pherfformwyr yn hytrach nag i reolwyr sianeli teledu.