Bernard Kay yn y ffilm, Dr Zhivago
Bu farw’r actor a fu’n wyneb cyfarwydd ar gyfres Dr Who yn yr 1980au, ar yr opera sebon Coronation Street, a’r cyfresi drama Z-Cars a Foyle’s War.

Roedd Bernard Kay yn 86 oed.

Ond mae’n bosib mai ei berfformiad enwoca’ oedd yn rhan ‘Bolshevik’ yn y ffilm, Dr Zhivago.

Yn y flwyddyn 2006, fe gipiodd wobr am bennod gynta’ ei hunangofiant, Maybe A Bastard, lle mae’n disgrifio ei blentyndod anodd yn nhre’ Bolton, gogledd Lloegr, cyn yr Ail Ryfel Byd.