Colin Firth
Mae’r actor a enillodd Oscar am ei rhan yn ffilm The King’s Speech wedi gwneud gwell gwaith ar ffilm gan gyfarwyddwr o Gymru.

Yn ôl y sylwebydd a chyflwynydd ffilm Mark Kermode roedd Colin Firth ar ei orau yn y ffilm seicolegol iasoer Trauma gan y cyfarwyddwr Marc Evans yn 2004.

“Mae wedi dweud hynny’n gyson,” meddai Marc Evans, “ac mae wedi bod yn gefnogwr brwd i’r ffilm Trauma, er nad oedd y ffilm wedi cael sylw aruthrol.

“Mae’n grêt i’w glywed yn dweud hynny.  Fe chwaraeodd Colin rhan anodd yn Trauma a allai fod wedi troi’n rôl digon diflas yn nwylo actor llai galluog.

“Dyna’r gwahaniaeth rhwng actor a seren. Mae actor yn rhoi popeth sydd ganddo i chi. Ond mae seren y gwybod faint i ddal yn ôl, faint i beidio rhoi.

“Mae Colin yn sicr yn gwybod beth a faint i ddal yn ôl. Mae hefyd yn digwydd bod yn berson hynod o hoffus ac mae’n haeddu’r clod mae newydd ei gael. Dyw e ddim wastad yn bosib dweud hynny am actorion amlwg!”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 3 Mawrth