Heno fe fydd noson arbennig ar S4C yn dathlu athrylith y canwr Meic Stevens yn y flwyddyn y mae’n dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed.

Fe fydd y noson yn cynnwys rhaglen awr arbennig o’r enw Meic Stevens: Oed yr Addewid sy’n cynnwys uchafbwyntiau gig arbennig a wnaeth yn stiwdios Tinopolis, Llanelli. Yn y gyngerdd bydd y canwr o Solfach yn canu ar ei ben ei hun, dim ond fe a’i gitâr.

Mae’r noson hefyd yn cynnwys dwy raglen archif am y cerddor sydd wedi dylanwadau ar genedlaethau o gerddorion yng Nghymru. Bydd cyfle i weld y rhaglen bortread Y Brawd Houdini a ddarlledwyd gyntaf ym 1990, sy’n cynnwys cyfweliadau gyda’i ffrindiau a cherddorion amrywiol, a’r gyngerdd Meic a ddarlledwyd ym 1997.

Ymhlith y pymtheg o ganeuon sy’n cael eu perfformio mae rhai o’r ffefrynnau yn cynnwys y gân serch ‘Môr o Gariad’, y gân brotest ‘Tryweryn’ a’r gân hiraethus ‘Ysbryd Solfa’.

Meic Stevens: Oed yr Addewid 8.25

Y Brawd Houdini 9.30

Meic 10.35