Yr Ods
Nos yfory yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yng Nghaerdydd bydd Yr Ods yn canu eu fersiwn nhw o’r gân ‘Ie dros Gymru’.

Cafodd ei chanu yn wreiddiol gan Caryl Parry Jones a Bando mewn Eisteddfod Ryng-golegol dros 30 o flynyddoedd yn ôl.

Yn 1979 roedden nhw’n canu adeg refferendwm dros gael Cynulliad i Gymru, ac yn 2011 mae’r Ods wedi atgyfodi’r gân ar gyfer refferendwm dros fwy o rym i’r Cynulliad… ond pam cymysgu pop a politics?

“Dw i wedi’i recordio hi am ddau reswm,” meddai Griff Lynch, canwr 22 oed Yr Ods sydd newydd orffen sgrifennu 20,000 o eiriau ar y pwnc ‘Agweddau o Genedlaetholdeb yn y Byd Canu Pop rhwng 1979 a 1997’.

“Y cyntaf, achos bo fi’n licio’r gân a dw i wedi astudio’r cyfnod a dw i’n meddwl bysa fo’n neis ail-greu darn o hanes felly,” meddai.

“Ac yn ail, dw i ddim yn gweld lot o fandiau yn cefnogi’r ymgyrch ‘Ie’ ar hyn o bryd, ac roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth. Ac er ei fod o’n fach iawn, efallai’n ddibwys, dw i’n teimlo bo fi’n cyfrannu rywfaint wrth wneud y cyfyr yna… cael o allan jest cyn y refferendwm, codi ychydig bach o ymwybyddiaeth a dangos bod Yr Ods tu ôl i ‘Ie dros Gymru’.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 17 Chwefror