Huw Stephens (llun y BBC)
Mae’r DJ Huw Stephens wedi dweud ei fod yn teimlo’n “gyffrous iawn” ynglŷn â’i raglen penwythnos newydd, fydd yn darlledu o fis Mawrth ymlaen.

Cyhoeddwyd heddiw y bydd y rhaglen newydd yn cael ei ddarlledu rhwng 1-4pm bob dydd Sadwrn a Sul.

Bydd yn cymryd slot presennol rhaglen Jo Whiley sy’n symud i Radio 2 ar ôl 17 mlynedd.

Dywedodd wrth Golwg 360 ei fod yn edrych ymlaen at “gyrraedd cynulleidfa ehangach” a chyflwyno “synau newydd i’r penwythnos”.

“Rydw i wrth fy modd gyda’r slot a’r rhaglen. Dw i’n falch iawn o’r cyfle,” meddai Huw Stephens wrth Golwg360.

Huw Stephens oedd cyflwynydd ieuengaf Radio 1 pan ymunodd yn 17 mlwydd oed.

Ar hyn o bryd, mae’n cyflwyno dwy sioe wythnosol ar Radio 1 bob dydd Mercher.

Fe fydd yn parhau gyda’i sioe hanner nos ddydd Mercher ar ôl dechrau ei sioe newydd.

Cerddoriaeth newydd

“Un o’r rhesymau i mi gael y swydd dw i’n meddwl oedd fy mod i’n hoffi bandiau newydd ac yn eu chwarae nhw yn aml,” meddai.

“Mae Radio 1 wedi cefnogi bandiau a synau newydd yn gyson.

“Fe fyddaf i’n parhau i chwarae lot o ganeuon newydd,” meddai. “Dw i’n edrych ymlaen at gael slot yn y dydd a chyrraedd cynulleidfa ehangach.

“Mae rhaglen Jo Whiley yn wych ac mae hi’n ysbrydoliaeth. Dw i’n gobeithio parhau gyda’i brwdfrydedd a’i chariad hi at gerddoriaeth.

“Mae fy sioe bresennol yn fy ngalluogi i chwarae cerddoriaeth newydd – felly dw i’n edrych ymlaen at ychwanegu rhai synau newydd i brynhawniau’r penwythnos.”