Mae’r Spice Girls yn gobeithio datrys eu problemau sain cyn perfformio yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd nos Lun (Mai 27).

Roedd llu o gwynion am ansawdd y sain wrth iddyn nhw ddechrau eu taith ddiweddaraf yn Croke Park yn Nulyn neithiwr (nos Wener, Mai 24).

Mae Mel B yn dweud ei bod yn gobeithio y bydd y sain “lawer gwell” yng Nghaerdydd.

Maen nhw’n perfformio ar lwyfan am y tro cyntaf ers saith mlynedd, ac mae nifer fawr o bobol wedi talu mwy na £100 am docyn.

“Gwelwn ni chi yng Nghaerdydd,” meddai Mel B mewn fideo ar Instagram. “A gobeithio y bydd y lleisiau a’r sain lawer iawn gwell, pfft.”