Meic Stevens
Y pedwerydd dyfyniad ‘Mâs o Mâ’ – hunangofiant Meic Stevens.
Ar ôl chwilio am gantores i ganu ar yr albwm Icarws, dyma Meic yn dod ar draws Lleuwen…

Daeth diwrnod y recordio. Ro’n i wrthi ers y bore bach gyda’r peiriannydd Eryl B Davies yn Stiwdio Sain yn Llandwrog, Caernarfon. Agorodd y drws a llenwodd hon y stafell reoli â’i phresenoldeb.

Neidiodd Eryl ar ei draed i gyfarch blonden dal, hardd, hirwallt a’i gwên odidog yn goleuo’r lle. Dwi’n hen law, wedi’u gweld nhw i gyd, ond Iesu, os yw hon yn gallu canu gystal ag mae’n edrych, r’yn ni wedi taro’r jacpot,meddyliais.

Roedd Eryl yn gyffro i gyd ac wedi cymryd ati’n fawr! Dyma ddechre ar y gwaith, ac roedd yn dda.

Ro’n ni’n dau yn y stiwdio yn canu rhanne lleisiol gyda’n gilydd ar ddau feicroffon Neumann gwahanol ac roedd popeth yn mynd yn dda. Trîtiais i bawb i ginio yn y Newborough Arms, Bontnewydd.

Roedd hi’n rhwydd sgwrsio â hi, yn rhydd iawn ei hysbryd, yn barod i daflu syniade o gwmpas. Roedd ganddi ei band ei hun a oedd, ’run peth â hi, wedi cael addysg yn y brifysgol, nid ar yr hewl fel fi! Ro’n nhw’n chware alawon jazz yn ogystal â chaneuon Lleuwen ei hunan.

Dechrau rhywbeth simsan

Cawson ni lot o hwyl. Roedd rhyw hud rhyfedd yn perthyn iddi, fel petawn i’n ei nabod hi ers blynydde.

Gofynnodd i fi fynd yn ôl y nosweth ’ny i lle roedd hi’n byw, ar stad breifat plasty mawr ym Mhenmon. Dylwn i fod wedi mynd ond dwedais ‘na’. Roedd gwaith paratoi i’w neud ar gyfer y recordio y diwrnod wedyn a bydda i’n blino ar ôl sesiwn recordio hir.

Saith ar hugain oed oedd Lleuwen bryd ’ny, ym mlode ei dyddie, a finne’n hen ddyn chwe deg pump ac angen cwsg!…

Roedd yr albwm wedi’i orffen ond hyn, heb yn wbod i mi, fydde dechre rhywbeth llawer mwy simsan nag Icarws.

Menai, Eryri a char Smart

Weithie, dwi’n rhyfedd o ddiniwed a gall hyn fy arwain i oleunia thywyllwch fel ei gilydd. Dwi’n colli hunanreolaeth ambell waith ac mae synnwyr cyffredin yn mynd mas drwy’r ffenest.

A dyna lle ro’n i – mewn lle anial, gyda merch bert ar lan afon Menai a’i draeth preifat ger Biwmares – y môr o’n blaene ni a mynyddoedd mawreddog Eryri yn codi i’r awyr gymylog.

Roedd hi’n dywydd uffernol, yn bygwth gwyntoedd cryf, glaw diddiwedd, a thywydd gwyllt bron bob dydd. Roedd Lleuwen yn dysgu canu’r gitâr a gallwn ei helpu dipyn. Mae Lleuwen yn ddeallus iawn, yn graff ac yn deall pethe’n glou.

Ar ôl diwrnod neu ddau es i’n ôl i Gaerdydd, a rhoddodd bàs i mi i orsaf Bangor yn ei char bach Smart rhyfedd – fel un o’r bubble cars o ddiwedd y pumdege ond bod pedair olwyn iddo. Gallai fynd i Gaerdydd ac yn ôl, medde hi, ar werth pymtheg punt o betrol.

Addewais fynd yn ôl yn fuan ac addawodd hi ’nghyfarfod i pan fyddai’n dod i Gaerdydd. Ro’n i’n falch o fod ar fy ffordd adre, rhag ofn bod y plant wedi llosgi’r tŷ i’r llawr…

Mae ‘Mâs o Mâ’ yn cael ei lansio yn mhabell Y Lolfa ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam am 2pm ddydd Iau nesaf, 4 Awst. Gallwch brynu’r gyfrol o wefan Y Lolfa.

Bydd y pumed dyfyniad yn ein cyfres o’r gyfrol ym ymddangos ar Golwg360.com yfory.