Creision Hud
Mae cylchgrawn pop Cymraeg Y Selar wedi trefnu taith o amgylch Cymru i dri band ifanc.

Bydd Creision Hud, Sen Segur a Trwbador yn ymweld â Chaerdydd, Bangor, Aberystwyth, Caerfyrddin a Llanrwst ym misoedd Mehefin a Gorffennaf.

Mae’r daith newydd yn ymdrech uniongyrchol i lenwi bwlch yn y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes gan ymweld â rhai ardaloedd sy’n dioddef o ddiffyg gigs Cymraeg rheolaidd, yn ôl y trefnydd.

“Mae’r daith yn ymateb i’r galw am fwy o gigs Cymraeg mewn rhai rhannau o’r wlad,” meddai golygydd Y Selar, Owain Schiavone.

 Amserlen lawn taith ‘Slot Selar’:

23 Mehefin – Dempseys, Caerdydd

24 Mehefin – Clwb RAFA, Aberystwyth

25 Mehefin – The Parrot, Caerfyrddin

1 Gorffennaf – Clwb y Rheilffordd, Bangor

2 Gorffennaf – Clwb Rygbi Nant Conwy, Llanrwst