Yn dilyn y cyhoeddiad am ei ymadawiad fel gitarydd y Race Horses, mae Alun Gaffey wedi sôn wrth Golwg360 am ei obeithion i’r dyfodol.

“Roeddwn i’n  teimlo ei bod hi’n amser i mi symud ymlaen,” meddai. “Dw i eisiau cymryd rheolaeth o fy nyfodol fy hun a newid fy ngyrfa.

“Mi ges i grêt o amser dros y 5 mlynedd diwethaf… Dw i eisiau pawb wybod fy mod i’n ei hystyried yn fraint i fod wedi cael chwarae hefo’r grŵp yma dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai gan ddisgrifio’r profiad iddo’i gael fel “ffantastig.”

 “Mae’r grŵp am gario ’mlaen a rhyddhau’r albwm rydan ni newydd recordio, ac mae’n  rhaid i mi ddweud fy mod i’n credu mai’r peth gorau rydan ni wedi’i wneud erioed ydi o,” meddai am y gryno ddisg sy’n cael ei gymysgu ar hyn o bryd – nad oes teitl iddo eto.

“Mae gen i lawer o syniadau dw i eisiau ei gwireddu a rŵan, fe fydd gen i’r  amser a’r cyfle i wneud rhai ohonyn nhw rŵan.

“Dydw i ddim yn bwriadu atgyfodi Pwsi Meri Mew ond efallai y gwnawn ni rhyddhau’r albwm coll y gwnaethon ni recordio bedair blynedd yn ôl.

“Rydw i  hefyd yn recordio fy stwff fy hun … Dw i yn drist fy mod i wedi gwneud y penderfyniad o adael y band, ac yn dal i addasu i’r newid hynny. Ond, ar ôl dweud hynny – mae o’n deimlad o ryddhad mawr hefyd.”