Cyhoeddwyd rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn – gwobr fydd yn cael ei chyflwyno yng Nghaffi Maes B ddydd Gwener, Awst 11.

Bwriad y wobr yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei ryddhau yng Nghymru, ac mae’r rhestr fer yn gymysgedd o gynnyrch ac artistiaid.

Mae’r albymau i gyd wedi’u cyhoeddi rhwng Mawrth 1, 2016 a diwedd Ebrill 2017.

Bu rheithgor o unigolion sy’n rhan o’r diwydiant cerddoriaeth yn dewis a dethol eu hoff gynnyrch, gan bleidleisio am eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses.

Y deg

·         Band Pres Llareggub – Kurn

·         Bendith – Bendith

·         Calan – Solomon

·         Castles – Fforesteering

·         Gwilym Bowen Rhys – O Groth y Ddaear

·         Meinir Gwilym – Llwybrau

·         Mr Huw – Gwna dy Feddwl i Lawr

·         Ryland Teifi – Man Rhydd

·         The Gentle Good – Ruins / Adfeilion

·         Yws Gwynedd – Anrheoli

“Mae’r wobr hon yn rhan bwysig o’r Eisteddfod erbyn hyn ac yn rhoi lle pwysig i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes o bob math,” meddai Guto Brychan, un o drefnwyr y wobr.

“Mae bob amser yn ddiddorol gweld beth sy’n apelio at y rheithgor ac yna’r beirniaid, ac mae’r ffaith mai’r rheiny sy’n ymwneud â’r diwydiant cerddoriaeth sy’n dewis yn sicrhau hygrededd y wobr.”