Ed Sheeran gyda'i fentor o Gymraes, Amy Wadge
Mae’r cerddor Ed Sheeran wedi cyhoeddi y bydd yn ymweld â Chaerdydd ar ei daith o wledydd Prydain y flwyddyn nesaf.

Bydd y canwr yn perfformio yn Stadiwm y Principality ar Fehefin 22, 2018 ac mi fydd y tocynnau ar werth o Orffennaf 8 ymlaen.

Fe ryddhaodd Ed Sheeran ei drydydd albwm, Divide, ym mis Mawrth eleni a hyd yma mae wedi llwyddo i werthu wyth miliwn o gopïau ledled y byd.

Mae’r cerddor yn enwog am ganeuon sy’n cynnwys ‘Shape of You’ a ‘Thinking Out Loud’ – can gafodd ei gyfansoddi ar y cyd â’r Gymraes, Amy Wadge.

Perfformiodd o flaen miloedd  ar lwyfan y Pyramid yng Ngŵyl Glastonbury wythnos ddiwethaf gan ddenu miliynau o wylwyr teledu.