Abba yn 1974, Llun: PA
Fe fydd grŵp pop fwyaf poblogaidd Sweden, Abba, yn ailffurfio am y tro cyntaf ers 30 mlynedd y flwyddyn nesaf.

Mae’r pedwarawd wedi dweud y byddan nhw’n dod at ei gilydd eto ar gyfer prosiect digidol “arloesol” gyda’r rheolwr Simon Fuller, oedd yn enwog am reoli’r Spice Girls.

Nid yw manylion llawn y prosiect wedi cael eu datgelu, ond mae datganiad yn dweud y bydd  Agnetha Faltskog, Bjorn Ulvaeus, Benny Andersson, a Anni-Frid Lyngstad yn rhan o’r broses greadigol, a’u bod am “geisio cadw mor agos ag sy’n bosib at ysbryd gwreiddiol y band”.

Mae llefarydd ar ran y prosiect wedi dweud bod bwriad i alluogi i genhedlaeth newydd o gefnogwyr weld, glywed a theimlo’r band “mewn ffordd arloesol”.