Al Lewis a'r band
Ianto Phillips fu’n mwynhau ar draeth Llangrannog….

Nos Sadwrn diwethaf es i a chriw o ffrindiau i’r ŵyl ar draeth Llangrannog.   Gŵyl sy’n rhad ac am ddim ac mae Nôl a Mla’n wedi ei chynnal yno ers rhai blynyddoedd bellach.

Y syniad yw eich bod yn mynd ‘Nôl a Mla’n’ o ddwy dafarn wahanol – y Llong a’r Pentre Arms.  Mae yna lwyfan fawr mewn pabell yng nghanol y maes parcio ger y traeth a hefyd llwyfan wedi ei hadeiladu ar y traeth wrth ymyl  tafarn y Pentre

Cynhaliwyd yr Ŵyl dros 2 ddiwrnod a chlywais fod dydd Gwener yn llwyddiant gydag Al Lewis fel prif artist y noson honno.  Yn anffodus dim ond ar y nos Sadwrn roeddwn i’n gallu mynd gan i mi fod yng Ngwyl UMCA 40 i ddathlu deugain mlynedd o fodolaeth Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth.

Cyrhaeddais bentref braf Llangrannog yn eithaf hwyr am oddeutu wyth o’r gloch.  Mae wyth o’r gloch yn swnio’n eitha’ cynnar i gyrraedd i weld gig ond nid gig cyffredin yw gig Nôl a Mla’n.

Roeddwn yn ymwybodol o bobl o bob oedran yn cael hwyl; yn nofio yn y môr, bwyta sglodion ac yfed peintiau o gwrw wrth i mi gyrraedd ac roeddwn yn siomedig i mi gyrraedd mor hwyr.  Roedd gwên ar wynebau pob un o fy nghwmpas a Brython Shag yn chwarae ar y prif lwyfan wrth i mi gyrraedd.

Roeddwn newydd nôl fy ail beint o’r bar y tu allan i dafarn y Llong; y cwrw’n gwlychu fy nhafod a thorri fy syched a’r peth nesa nid dim ond fy llwnc oedd yn wlyb.  Cwympodd law yn ddi-baid arnaf i, ar bopeth, ar bawb am tua deg munud, a’r peth nesaf roedd y tywydd yn braf eto.  Cefais gyfle i weld Blaidd yn perfformio ar y llwyfan ar y traeth a mwynheais eu set yn fawr iawn ond yna dechreuodd y glaw unwaith yn rhagor.  Cyfle i mi redeg draw i’r llwyfan arall i weld y band olaf yn perfformio.

Erbyn i mi gyrraedd y babell yn y maes parcio roedd y glaw wedi peidio unwaith yn rhagor ond roedd storm gerddorol ar ddechrau.  H a’r Band oedd y prif artist ar y noson ac roedd eu perfformiad yn hudolus.  Teimlais wefr gynnes wrth ganu caneuon cofiadwy Edward H Dafis gyda rhai o’m cyfoedion agosaf.  Roedd ‘Ysbryd y Nos’ yn uchafbwynt i mi raid dweud.  Ar ôl i’r band orffen, roedd yr yfed, cymdeithasu a chanu’n parhau, ond ddim yn rhy hwyr gan mai gŵyl i’r teulu ydyw.

Mi fyddai’n siŵr o fynd yn ôl i Langrannog flwyddyn nesaf, a mynd am ddwy noson hefyd.  Rwy’n hoff iawn o’r syniad o fynd ’nôl a mla’n’ o un gig i’r llall i weld bandiau’n chwarae, ond gobeithiaf am dywydd gwell flwyddyn nesaf oherwydd roedd y tywydd yn mynd ’nôl a mla’n’ eleni!