Waldo
Ddiwedd y mis bydd y cyfrifydd a’r rhedwr rhyngwladol Huw Roberts, sy’n wreiddiol o Llandissilio, sir Benfro, yn gwneud pererindod heddwch o 45 milltir a fydd yn dilyn llwybrau’r bardd Waldo Williams fel rhan o ddigwyddiadau Penwythnos Waldo.

Dyma’r trydydd pererindod i Huw, y gyntaf i Santiago de Compostela yng ngogledd Sbaen yn 2007 a thaith o Landdewi Brefi i Dŷ Ddewi yn 2010.

Codwyd £22,000 tuag at elusennau yn ystod y ddwy daith.

“Dyma gyfle gwych i gyfuno teyrnged i Waldo’r heddychwr a cherdded llwybrau prydferth fy sir enedigol,” meddai Huw Roberts.

“Mawr obeithiaf y bydd pobol yn cefnogi’r daith trwy gyd-gerdded  gyda fi, am fod y Pererindod yma yn cyfrannu at Gymdeithas Waldo a Sefydliad Prydeinig y Galon.”

Bydd y daith yn cychwyn o Dŷ’r Crynwyr yn Aberdaugleddau, lle roedd Waldo yn addoli, ar ddydd Iau Medi 27, ac yn dilyn llwybr Waldo trwy Hwlffordd, lle gafodd Waldo ei eni.

Yna ymlaen i Ysgol Casmael, lle roedd yn dysgu, ac yn gorffen wrth y bedd yn Llandissilio.

Am fwy o wybodaeth ar sut i gyfrannu, ewch fan hyn.