Marta Klonowska sy’n adolygu nofel gyntaf yr awdur ‘pulp’ Alun Cob, a gyhoeddwyd yn yr hydref.

Mae Alun Cob yn mynd a’i ddarllenwyr ar daith gyffrous o gwmpas mannau cudd a thywyll Gogledd Cymru yn ei nofel gyntaf Pwll Ynfyd.

Y Gogledd Gwyllt

Prif gymeriad y nofel yw Oswyn Felix, perchennog y tafarn Penrhyn Arms ym Mangor. Ond mae bywyd tawel y tafarnwr yn dod i ben cyn gynted â thudalen tri, pan gaiff wybod bod ei ffrind gorau, Dyl Mawr, wedi cael ei stido’n ddidrugaredd gan gang o ddihirod.

Ar ôl darganfod nad yw’r heddlu lleol yn awyddus i chwilio am y troseddwyr a bod tystiolaeth yr achos yn diflannu mewn ffordd ddirgel, mae’n bryd i Felix gymryd rôl y siryf yn y dref. Yn fuan, mae’n canfod ei hun yn teithio trwy fyd tanddaearol llygredig Bangor a bydd nifer o ddigwyddiadau annisgwyl yn croesi ei lwybr.

Cyng ffŵ

O ran genre,  mae arddull “Pwll Ynfyd” yn siglo rhwng nofel gyffrous a nofel ditectif. Un peth sy’n nodweddiadol o lenyddiaeth Gymraeg yn fy marn i, yw na ddylid disgwyl i’r plot droi yn orddramatig neu waedlyd, hyd yn oed mewn nofelau cyffrous fel hyn. Tybed os nad yw pethau o’r fath yn gweddu i natur dirion y Cymry?

Ond, er y gall edmygwyr Tarantino gael tipyn o siom gan y modd y mae Felix yn ymladd drygioni, yn sicr mae’r nofel yn cynnal digon o saethu, ymlid ac ymladd (yn cynnwys ychydig o ‘gyng ffŵ’ hyd yn oed) i fodloni darllenwyr diamynedd.

Ar wahân i rai mannau gwan, mae’r ‘Pwll’ yn nofel afaelgar, yn berwi gyda deialogau bywiog, digwyddiadau cyffrous a chymeriadau hynod gofiadwy. Mae hyn i gyd yn rhoi naws sinematig i’r llyfr – yn wir, nid yw’n anodd ei ddychmygu’n cael ei addasu i’r sgrin rhyw ddydd.

Ieithoedd – dwy neu fwy?

O ran iaith, gall y nofel gynnig tipyn o her i ddarllenwyr.  Cymysgedd ddiddorol o ieithoedd a geir yma, gyda deialogau yn Gymraeg tafodieithol a Saesneg, Cymraeg safonol yn narnau’r adroddiad ac, ar ben hynny, Cymraeg hynafol yn y diarhebion sydd yn agor pob pennod.

Eto, nid y dafodiaith na’r heniaith oedd yn peri penbleth mwyaf imi ar y dechrau, ond darnau hir o Saesneg wedi’i sgrifennu’n ffonetig. Weithiau, roedd yn rhaid stopio am eiliad neu ddwy er mwyn datrys ystyr y geiriau – yn enwedig pan eu bod nhw’n  debyg i eiriau Cymraeg. Efallai mai dim ond tueddiad personol yw hwn, ond roedd ymadroddion fel “fampair awyrs” yn achosi imi chwilio am ennyd am gysylltiad rhesymegol rhwng ‘pair’, ‘mam’ ac ‘awyr’ cyn imi sylweddoli mai Saesneg sy’n cael ei defnyddio!

Er hynny, ar ôl ychydig amser, mae’n bosib dod yn gyfarwydd gyda’r gymysgedd hwn. Ar y cyfan, rwy’n credu bod y dafodiaith yn ychwanegu llawer i’r nofel trwy gryfhau ei elfen realistig; ac mae diarhebion ac englynion yn syniad gwych, yn fy marn ni. Maen nhw’n creu cyferbyniad diddorol  ac, yn ogystal â hynny, rhoi ryw fath o ddimensiwn amserol i’r nofel – bron fel petai’r awdur am ein hatgoffa ni bod stori “dyn cyfiawn sy’n gwneud barn a chyfiawnder” yn un hen iawn.

Mae Marta Klonowska yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Poznan yng Ngwlad Pwyl, sydd ar leoliad gwaith gyda Golwg/Golwg360 dros yr haf.

Dyma gyflwyniad Alun Cob i’w nofel o raglen Pethe gan Cwmni Da: