Y gyfrol sy’n ennill Gobr Ffuglen Gymraeg eleni yw’r nofel Gwales gan Catrin Dafydd (Y Lolfa).

Mae’n cae ei disgrifio gan y beirniaid fel “nofel gyffrous a mentrus sydd wedi ei lleoli yng Nghymru y dyfodol agos, gan awdures brofiadol â llais unigryw”.

Prif gymeriad y nofel yw Brynach Yang, yng nghanol rhyfel rhithiol sy’n torri rhwng Tsieina â’r gorllewin gyda chwestiynau’n codi am ymateb a thwf yr adain dde.

“Mae sgwrs eithaf agored yn y nofel rhwng y cymeriadau, yr awdur a’r darllenydd am y math o Gymru sy’n mynd i fod yn y dyfodol, ac sy’n bod heddiw,” meddai Catrin Dafydd wrth golwg360 adeg lansio’r gyfrol.

“Mae yna gwestiynau mawr o ran dosbarthiadau a sefyllfa ein democratiaeth.”

Y ddau awdur arall ar y rhestr fer oedd Mihangel Morgan (Hen Bethau Anghofiedig) a Llyr Gwyn Lewis (Fabula).