Dod â Merched y Wawr a pherson trawsrywiol ynghyd mae nofel ddiweddaraf yr awdures o Aberystwyth, Dana Edwards.

Mae Am Newid yn dilyn hynt y cymeriad trawsrywiol, Ceri, sy’n penderfynu ymuno â’r gangen leol o Ferched y Wawr adeg dathlu hanner can mlwyddiant y mudiad y llynedd.

“Mae pobol fel Merched y Wawr yn gymdeithasau sy’n llawn o bobol sy’n wahanol i’w gilydd, felly roedd modd dod â chymeriadau gwahanol at ei gilydd,” meddai’r awdures wrth golwg360.

“Mi ro’n i eisiau rhoi Ceri mewn cyd-destun Cymreig, a does dim mwy Cymreig na Merched y Wawr.”

“Anodd ymdoddi”

Cafodd Dana Edwards ei hysgogi i sgrifennu’r nofel ar ôl cwrdd â merch drawsrywiol rhai blynyddoedd yn ôl, gan gydweithio â hi i drefnu cyngerdd codi arian i elusen.

“Mae’n anodd iddi ymdoddi – mae’n edrych yn wahanol i’r rhan fwyaf o fenywod,” meddai. “Ond yn hytrach nag encilio, mae hi wedi penderfynu nad dyna’r ffordd mae hi am fyw ei bywyd, ac mae hi allan yn gwneud gwahaniaeth i’w chymdeithas.”

Wrth gyflwyno sefyllfaoedd yn ei nofel lle mae pobol yn “cael eu cau mas” felly, mae Dana Edwards yn credu ei bod yn bwysig defnyddio “ychydig o hiwmor”, fel y mae darn o’r bennod isod yn dangos…

Fe gafodd y nofel ei lansio ddiwedd y llynedd ar stondin Merched y Wawr yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd.