Caryl Lewis fydd yn traddodi Darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis nos Iau
Mae un o brif awduron Cymru yn datgelu sut y mae gwahanol batrymau byd natur yn ysbrydoli ffurfiau gwahanol o ysgrifennu iddi hi.

Mewn darlith arbennig nos Iau (Hydref 26) mi fydd Caryl Lewis yn datgelu sut y mae’n defnyddio pluen yn batrwm i stori fer, coeden yn batrwm i nofel a chragen yn batrwm i gerdd.

“Dw i’n edrych ar sut y mae ffurfiau naturiol yn medru effeithio ffurf lenyddol,” meddai Caryl Lewis a fydd yn traddodi Darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis eleni.

Darlith i gofio Islwyn Ffowc Elis

“Dw i’n defnyddio natur dipyn yn fy ngwaith a dw i eisiau defnyddio’r ddarlith fel cyfle i rannu’r pethau dw i’n feddwl amdanyn nhw wrth greu gwaith llenyddol,” meddai.

“Hoffwn edrych ar ffurfiau naturiol sy’n cael eu gweld dro ar ôl tro yn natur e.e. troellau (meddwl am DNA a chragen a chorwynt).”

Dyma’r  bumed ddarlith i gofio am un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru, Islwyn Ffowc Elis, ac mae’n cael ei chynnal dan adain Gŵyl Golwg.

Tra bod Caryl Lewis wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn gydag Y Bwthyn a Martha, Jac a Sianco a’r nofel honno wedi gwerthu’n well nag unrhyw nofel yn y ganrif hon – nofel Islwyn Ffowc, Cysgod y Cryman, sydd wedi ei dewis yn llyfr mwya’ poblogaidd yr ugeinfed ganrif a hi yw un o’r gwerthwyr gorau erioed yn Gymraeg.

“Mi fyddai Islwyn wrth ei fodd o wybod bod Caryl yn rhoi sgwrs yn ei enw,” meddai Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, Dylan Iorwerth.

“Mae’r ddau fel ei gilydd wedi defnyddio byd natur a disgrifiadau o’r wlad i greu awyrgylch a chreu teimlad yn eu nofelau.”

Mae’r ddarlith Natur y Gair – Golwg ar lenyddiaeth natur a natur llenyddiaeth yn cael ei chynnal yn Festri Capel Brondeifi, Llanbedr Pont Steffan, nos Iau, Hydref 26, am 7.30yh.