Mae trefnwyr gŵyl lyfrau yn y Gelli Gandryll wedi gofyn i bobol i beidio dod â “bagiau mawr neu rycsacs mawr” gyda nhw i’r ŵyl eleni.
Gwyl y Gelli

Daw hyn wrth iddyn nhw dynhau mesurau diogelwch wedi’r ymosodiad ym Manceinion nos Lun.

Fe fydd mwy o staff a phresenoldeb yr heddlu ar y maes hefyd wrth i fagiau gael eu harchwilio, ac fe fydd yr ŵyl yn “cydweithio â gwasanaeth cyfraith leol a chenedlaethol.”

Am hynny, mae’r trefnwryr yn gofyn i bobol ganiatáu mwy o amser i gyrraedd yr ŵyl gan “adrodd unrhyw beth amheus i stiwardiaid yr ŵyl neu aelod o staff.”

 

700 o ddigwyddiadau

 

Rhai o uchafbwyntiau’r ŵyl sy’n dechrau heddiw (Mai 25) yw sgwrs â’r seneddwr o Vermont, Bernie Sanders, oedd yn ceisio cael ei ethol yn ymgeisydd y Democratiaid yn erbyn Hillary Clinton yn ras arlywyddol yr Unol Daleithiau’r llynedd.

Mae’r ŵyl yn dathlu 30 mlynedd ers ei sefydlu eleni, ac mae mwy na 700 o ddigwyddiadau wedi’u trefnu dros yr wythnos nesaf.

Ychwanegodd y trefnwyr yn eu datganiad eu bod yn “cynyddu darpariaeth diogelwch i sicrhau fod ein hymwelwyr yn gallu mwynhau’r rhyddid rydyn ni’n ei ddathlu yn yr ŵyl.”