Derek Walcott (Llun Wikimedia Commons)
Roedd Cymru “ar y blaen” i’r byd llenyddol wrth gyflwyno gwobr ryngwladol i fardd o St Lucia yn 1980. Enillodd Derek Walcott wobrwyon lu wedyn, a’r Wobr Nobel am Lenyddiaeth yn 1992.

Dyna ddywedodd Ned Thomas wrth golwg360 am Derek Walcott, enillydd Gwobr Awduron Rhyngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, yn dilyn ei farwolaeth yn 87 oed.

Er mai fel bardd y cafodd enwogrwydd byd eang, bu hefyd yn ddramodydd toreithog gan ddefnyddio tafodiaith  ynysoedd y Caribî yn y gweithiau hynny.

Cydnabyddiaeth yng Nghymru

Roedd Ned Thomas yn un o’r rhai a fu’n allweddol wrth ddyfarnu’r wobr i’r bardd sy’n cael ei ystyried yn un o feirdd mwya’r Caribî.

Dywedodd wrth golwg360: “Roedd Cymru ar y blaen yn dyfarnu gwobr ryngwladol iddo fo. Oedd o wedi ennill gwobrau mwy lleol, ond ychydig ar y pryd oedd o wedi ennill gwobrwyon rhyngwladol.”

Adeg ei ymweliad â Chymru yn 1980 y cyfarfu’r ddau â’i gilydd am y tro cyntaf, er iddyn nhw fod yn gohebu am beth amser wrth i Ned Thomas fynd ati i ysgrifennu’r llyfryn dwyieithog Derek Walcott: Poet of the Islands/Derek Walcott: Bardd yr Ynysoedd.

“Roedd o’n hyfryd iawn fel personoliaeth. Dyna oedd pawb yn dod ar ei draws o’n ffeindio, fod o’n gwmni da iawn ac yn hawdd iawn ymwneud â fo.

“Ond oedd o’n gallu bod yn reit ddeifiol am bethau doedd o ddim yn cytuno efo nhw ac yn gydymdeimladol iawn â’r rhai oedd yn dioddef cam.”

Derek Walcott a theledu Cymraeg

Adeg ei ymweliad â Chymru, cafodd ei ddrama ‘Pantomime’ ei llwyfannu yn Aberystwyth. Drama fer oedd hon yn gofyn am un actor croenddu ac un actor croen gwyn.

Roedd Ned Thomas ymhlith y rhai aeth â Derek Walcott allan am ginio ar ôl y perfformiad, a chael eu hunain yng nghanol ffrae am deledu Cymraeg – a darganfod drwy hynny fod yr actor gwyn yn y perfformiad o dras Gymreig.

“Roedd hi cyn dechrau’r sianel Gymraeg, ond roedd rhaglenni Cymraeg ar deledu Saesneg. Fe ddechreuodd pâr o ymwelwyr oedd yn bwyta yn yr un lle gwyno bod ‘na raglenni Cymraeg ar y teledu yn y gwesty lle roeddynt yn aros, ac yn sydyn – ac o’n i ddim yn gwybod hyn ond roedd yr actor gwyn o dras Gymreig – fe gododd  hwnnw blât a’i dorri fo’n ddramatig ar gornel y bwrdd! ‘Ewch adref’ meddai’r actor gwyn. ‘Agweddau fel y rhai chi barodd i’r Gymraeg fynd ar goll yn fy nheulu i’.”

Fel yr eglura Ned Thomas, fe wnaeth y digwyddiad hwnnw argraff  ar Derek Walcott, ac yntau’n falch iawn o’i wreiddiau yn St Lucia, oedd wedi gweld agweddau negyddol tuag at liw croen ei bobol ei hun.

“O’n i’n gyrru Derek Walcott i lawr i Gaerdydd y diwrnod wedyn ac oedd o’n deud, ‘Dwi wedi gweld pethau tebyg yn digwydd cymaint o weithiau yn ymwneud â hil a lliw croen pobol, ond dw i erioed wedi’i weld o ynglŷn ag iaith!’”

Gŵyl y Gelli – y bardd trefedigaethol

Erbyn i’r ddau gyfarfod unwaith eto yng Ngŵyl y Gelli rai blynyddoedd wedyn, roedd Derek Walcott eisoes yn enwog ar draws y byd.

Roedd wedi gwneud enw iddo’i hun am gerddi oedd yn aml wedi eu lleoli yn y Caribî – er eu bod “yn siarad â phawb sy’n darllen Saesneg lle bynnag y bôn nhw”, yn ôl Ned Thomas.

Fe gafodd Ned Thomas wahoddiad bryd hynny i’w holi mewn noson arbennig yn yr ŵyl, a dyma weld ochr ddeifiol yng nghymeriad Derek Walcott yn amlygu ei hun unwaith eto.

“Rhywle ar hyd y ffordd, dyma fo’n creu rhywfaint o syndod drwy ymosod ar gwmni Booker Brothers, a nhw oedd yn noddi’r wobr fawr lenyddol ar y pryd!

“Y rheswm oedd o’n ymosod arnyn nhw oedd eu bod nhw’n rhan o ryw gonsortiwm oedd yn chwythu top rhyw fynydd ar ei ynys, St Lucia er mwyn hyrwyddo rhyw brosiect enfawr, fatha pentre’ gwyliau.

“Dyma fo’n gorffen y pwnc drwy ddweud yn Saesneg, ‘Ond dyna ni, sdim angen i mi ddweud wrthoch chi yng Nghymru be sy’n digwydd i chi wrth i chi fod yn drefedigaeth.’”

“Dwi’n amau mai 5% o’r gynulleidfa oedd yn Gymry yno!”

Ond yn hytrach na dilyn patrwm rhai o lenorion y Caribî yn y cyfnod o “bwysleisio’r cam a gafodd ei bobol”, chwedl Ned Thomas, fel bardd roedd Walcott â’i fryd ar “godi uwchben anghyfiawnder hanes, mynd i lefel drosgynnol a chreu rhywbeth newydd a gwahanol.”

Un o feirdd mwya’r iaith Saesneg?

Tra bod colofnau lu’r papurau newydd Llundeinig yn sôn am Derek Walcott fel bardd mwya’r Caribî, mae’r disgrifiad hwnnw’n “rhy gyfleus”, yn ôl Ned Thomas.

“Mae’n amhosib sôn am Derek Walcott heb sôn am ei gefndir o, ond wedi dweud hynny, mae’r obits i gyd yn pwysleisio’r Caribî.

“Mae’n amlwg ei fod o’n wir, ond rhaid i rywun ddweud fod o’n rhy gyfleus yn Llundain i roi bardd mawr mewn bocs a dweud, ‘Dyma’r bardd mwya mae’r Caribî wedi’i gynhyrchu.’

“Y cwestiwn yw pam mae o, fel RS [Thomas] o Gymru, fel Seamus Heaney o Iwerddon, yn apelio mor eang? Nid o Loegr ei hun daeth beirdd mwyaf yr iaith Saesneg yn y cyfnod. Mae’n un o feirdd mwyaf yr iaith Saesneg. Waeth inni fod yn glir am hynny.

“Mae pawb yn gweithio o’r patshyn a’r adnoddau cychwynnol sydd gynnon nhw, ond mae o’n un o’r rhai sydd wedi gallu ennill darllenwyr dros y byd erbyn hyn oherwydd ei fod o, drwy wisgo maneg ei ddiwylliant ei hun, yn gallu ymestyn i ddweud pethau sy’n taro tant mewn llefydd eraill.”