Llun: Cyngor Llyfrau Cymru
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi adnewyddu’r grantiau ar gyfer pedwar cwmni cyhoeddi Saesneg yng Nghymru, yn ogystal ag ariannu cyhoeddwr newydd i blant am y tro cyntaf, sef Firefly Press.

Mae Seren, Parthian, Gomer a Gwasg Honno wedi cael cadarnhad bod eu grantiau wedi’u hadnewyddu am y tair blynedd nesaf.

Mae’r grant yn golygu fod tua £250,000 yn cael ei rannu rhwng y pum cyhoeddwr rhwng 1 Ebrill 2017 hyd at 31 Mawrth 2020.

Firefly Press

Cafodd Firefly Press ei sefydlu yn 2013, ac mae’n cael ei gynnal yng Nghaerdydd ac yn Aberystwyth.

Maen nhw’n arbenigo ar gyfrolau i blant a phobol ifanc ac wedi ennill gwobrau gan gynnwys gwobr am ymgyrch farchnata, ynghyd â gwobr Branford Boase am y llyfr plant gorau gan awdur newydd, sef Aubrey and the Terrible Yoot gan Horatio Clare.

“Rydym yn falch iawn o groesawu Firefly i’r cynllun Refeniw,” meddai’r Athro Daniel G Williams, Cadeirydd Panel Grantiau Cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru.

“Bydd eu llyfrau yn ychwanegu at yr amrywiaeth o gyfrolau o ansawdd da a ariennir gan y grant hwn sydd, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi denu sylw beirniaid Gwobr Man Booker, Gwobr Costa a Gwobr Dylan Thomas, yn ogystal â chael eu mwynhau gan ddarllenwyr yng Nghymru.”

Ychwanegodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith Llywodraeth Cymru: “rwy’n croesawu’r buddsoddiad hwn ac yn gobeithio y bydd yn helpu cyhoeddi yng Nghymru i ddatblygu hyd yn oed ymhellach dros y tair blynedd nesaf.”