Hedd Wyn
A hithau’n 130 mlynedd i’r diwrnod ers geni’r bardd Hedd Wyn, mae gŵyl lenyddol wedi comisiynu cadair arbennig i goffau’r gŵr o Drawsfynydd.

Cymdeithasau Cymraeg Penbedw a Fflandrys sy’n trefnu’r ŵyl a bydd y gadair – sydd wedi ei chreu o hen drawstiau rheilffordd o Wlad Belg – yn cael ei chyflwyno i’r bardd sy’n ennill cystadleuaeth farddoni ym mis Medi.

Dywedodd un o’r trefnwyr, y Parchedig Ddoctor Dr Ben Rees, mai testun yr awdl fydd ‘Hedd Wyn’ ac mai’r Archdderwydd Geraint Lloyd Owen fydd yn gyfrifol am y seremoni gadeirio.

“Ryden ni hefyd am roi coron am gerdd yn y Gymraeg neu Saesneg i bobol ifanc dan 18 oed gan obeithio y bydd disgyblion ysgol o Lannau Merswy, Cymru a Fflandrys yn cymryd rhan,” meddai Dr Ben Rees.

Y Gadair Ddu

Enillodd Hedd Wyn, enw barddol Ellis Humphrey Evans, gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1917 am ei awdl ‘Yr Arwr’.

Ond ar ddydd Iau, 6 Medi 1917, cyhoeddodd T. Gwynn Jones i’r dorf ym Mhafiliwn yr Eisteddfod bod Hedd Wyn wedi cael ei ladd chwe wythnos ynghynt yn Ypres. Pan gyhoeddodd yr Archdderwydd ei fod wedi’i ladd yn y frwydr honno gorchuddiwyd y gadair â llen ddu.

Gwnaed y gadair gan ffoadur o’r enw Eugeen Vanfleteren o Wlad Belg.

Daethpwyd a’r gadair yn ôl i Drawsfynydd ar y trên ar 13 Medi, 1917 a chludwyd hi i’r Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, ar gart a cheffyl.