Yn hytrach na cherdd, cân werin oedd dewis y canwr Yws Gwynedd.

Esbonia iddo ddewis ‘Hiraeth’ am mai dyna oedd hoff gân ei fam hefyd, a’i fod yn cofio ei chanu gyda’i gilydd pan oedd yn iau.

“Dw i wrth fy modd efo’r geiriau yn y gân a’r syniad yma yng Nghymru o hiraeth,” meddai.

Dywed mai ei hoff gwpled yw:

‘Derfydd pob dilledyn helaeth

Eto er hyn ni dderfydd hiraeth.’

Mae wedi clywed amryw o fandiau yn ei chanu, meddai, gan ddweud fod y geiriau’n gweddu i gân neu gerdd.