Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth Llun: Llenyddiaeth Cymru
Bydd pedwar bardd yn ceisio sgwennu 100 o gerddi mewn 24 awr i nodi Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth eto eleni.

Am hanner nos, Hydref 6, bydd Aneirin Karadog, Anni Llŷn, Gwyneth Glyn a Twm Morys yn cychwyn ar eu hymgais i gyfansoddi cant o gerddi gwreiddiol rhyngddynt, a’u postio yn fyw ar flog www.her100cerdd.co.uk.

Eleni hefyd, mae gan y pedwar bardd a dderbyniodd yr her rywbeth yn gyffredin – maen nhw i gyd wedi bod yn fardd Plant Cymru.

Dyma’r pedwerydd tro i’r Her 100 Cerdd gael ei chynnal, gyda’r tri thîm blaenorol o feirdd yn llwyddo i’w chyflawni eiliadau yn unig cyn hanner nos.

Mae’r beirdd a dderbyniodd yr her dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys Eurig Salisbury, Hywel Griffiths, Elan Grug Muse, Gruffudd Antur, Casia Wiliam a Llŷr Gwyn Lewis.

Dyfeisiwyd y prosiect digidol hwn yn 2012 i nodi Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, dathliad blynyddol o farddoniaeth a phopeth barddonol a drefnir gan y Forward Arts Foundation, elusen sy’n dathlu barddoniaeth ragorol ac sydd â’r bwriad o ehangu’r gynulleidfa.

Yn 2014 cafwyd dros 10,000 o ymweliadau i flog Her 100 Cerdd, ac fe anfonwyd cannoedd o negeseuon yn cynnwys yr hashnod #Her100Cerdd ar Twitter a Facebook.

Mae croeso i’r cyhoedd anfon awgrymiadau a cheisiadau am themâu a phynciau i’r beirdd. Mae modd gwneud hynny ar Twitter (#Her100Cerdd, @LlenCymru), ar dudalen Facebook Llenyddiaeth Cymru, neu trwy anfon neges at post@llenyddiaethcymru.org.