Mae disgwyl i gopi gwallus o lyfr Harry Potter gan JK Rowling gael ei werthu am hyd at £20,000 mewn ocsiwn yn Llundain ym mis Tachwedd.

Mae’r llyfr yn un o 500 o gopïau o Harry Potter and the Philosopher’s Stone lle mae ‘1 wand’ yn cael ei ailadrodd ar dudalen 53. Cafodd y gwall ei gywiro ar gyfer copïau diweddarach.

Does dim gwybodaeth ar gael am berchennog presennol y llyfr.

Dywedodd llefarydd ar ran arwerthwyr Bonham’s fod “lle arbennig” i’r llyfr hwn yng nghalonnau darllenwyr Harry Potter, ac y dylid “trysori’r gwall”.

Ychwanegodd fod y llyfr mewn “cyflwr ardderchog”.