Gwynn ap Gwilym
Fe fydd y Prifardd Gwynn ap Gwilym, a fu farw ddechrau’r wythnos, yn cael ei gofio ar Faes yr Eisteddfod heddiw wrth i beth o’i waith gael ei gyhoeddi ar App.

Ei fersiwn ef o’r Salmau Cân yw un o’r ychwanegiadau newydd at Ap Beibl – ochr yn ochr â Salmau Cân Edmwnd Prys o 1621, sy’n cael eu lansio ar Faes yr Eisteddfod y prynhawn yma.

Roedd Gwynn ap Gwilym wedi gosod pob un o’r salmau ar donau emynau adnabyddus a’r rheiny sy’n cael eu cyhoeddi ar Ap Beibl heddiw.

‘Dawn aruthrol’

“Dw i’n meddwl bod y salmau cân yma’n dangos dawn aruthrol Gwynn fel bardd a hefyd fel Hebrewr – roedd wedi mynd yn ôl at yr Hebraeg gwreiddiol i ddal ysbryd y gwreiddiol,” meddai Arfon Jones o fudiad Gobaith i Gymru, un o’r cyrff y tu cefn i’r fenter.

Fe fydd yr holl salmau ar gael ar ddyfeisiadau symudol, gan agor y posibilrwydd o gynulleidfa gyfan yn cynnal oedfa ar ffôn symudol, meddai.

“Beth sy’n rhyfeddol ydi ei fod o wedi llwyddo i’w rhoi nhw ar donau cyfarwydd. Mae’r cyfan yn gwbl ganadwy.”

Cefndir

Roedd Ap Beibl wedi ei lansio’r llynedd, gan fanteisio ar dechnoleg oedd wedi ei datblygu yn yr Unol Daleithiau ar gyfer ieithoedd lleiafrifol yr Americaniaid brodorol.

Adeg hynny, y Gymraeg oedd yr unig iaith Ewropeaidd ar gael ar  y dechnoleg, ochr yn ochr â phedair iaith Americanaidd.

Mae’r ddau fersiwn o’r salmau cân yn cael eu hychwanegu at dri fersiwn o’r Beibl – fersiwn 1620 o Feibl William Morgan, Y Beibl Cymraeg diwygiedig a Beibl.net