Yr Athro Gwyn Thomas Llun: S4C
Mae digwyddiad lansio cyfrol deyrnged newydd i Dr Meredydd Evans wedi cael ei ohirio, yn dilyn y newyddion am farwolaeth y bardd a’r ysgolhaig, yr Athro Gwyn Thomas yr wythnos ddiwethaf.

Roedd y gyfrol deyrnged, Merêd: Dyn ar Dân, i’w lansio ddydd Sadwrn, yr un diwrnod ag angladd Gwyn Thomas, a fu farw’n 79 oed.

Mae cyhoeddwyr y llyfr, Y Lolfa, wedi dweud bod y lansiad, oedd i’w  gynnal yn ystod y Fedwen Lyfrau yn Galeri, Caernarfon, wedi cael ei ohirio am y tro.

Bydd angladd Gwyn Thomas yn cael ei gynnal bore dydd Sadwrn,  23 Ebrill gyda gwasanaeth cyhoeddus ym Mhen-dre, Bangor am 1 o’r gloch.

Bu farw un arall o gewri Cymru – Dr Meredydd Evans y llynedd yn 95 oed, roedd yn ffigwr amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru – fel perfformiwr, arbenigwr ar ganu gwerin ac ymgyrchydd iaith amlwg. Merêd: Dyn ar Dân yw’r gyfrol deyrnged ddiweddaraf iddo.

Bydd Y Fedwen Lyfrau yn parhau fel arall gyda lansiad a sgwrs am nofelau Rhyd y Gro (Sian Northey, Gomer) ac Y Traeth (Haf Llewelyn) gyda Menna Baines yn holi am 10 o’r gloch y bore yn Galeri yng Nghaernarfon.