Beth i’w ddisgwyl o benwythnos INC yn Galeri Caernarfon dros y dyddiau nesaf …

Yn sgil llwyddiant Penwythnos yr INC 2014 Galeri, Caernarfon, dyma gyflwyno’r trydydd INC, 2015! Nid Penwythnos fydd hwn, ond pedwar diwrnod llawn o weithgareddau’n ymwneud mewn rhyw ffordd neu gilydd â newyddiaduraeth, y wasg a’r byd cyhoeddi. A ble gwell na Galeri Caernarfon i gynnal INC gyda Chaernarfon, hyd at yr Ail Ryfel Byd, yn cael ei chyfri’n fetropolis y busnes argraffu a chyhoeddi.

Menna Elfyn, Llywydd Wales PEN Cymru, fydd yn cloi Penwythnos INC eleni yn siarad am waith PEN, y sefydliad rhyngwladol sy’n dathlu llenyddiaeth ac amddiffyn rhyddid mynegiant, ac yn cyflwyno:

Ben Rawlence, cyn uwch ymchwilydd ar Affrica gyda Human Rights Watch

mewn trafodaeth hefo:

Abdiaziz Ibrahim, newyddiadurwr gwobrwyol a gweithredwr hawliau dynol o Somalia, a

Norbert Mbu-Mputu, newyddiadurwr, ysgrifennwr a sylwebydd y cyfryngau, yn enedigol o’r Congo, a ddaeth yn geisiwr lloches ac sy’n awr yn byw yng Nghymru.

Dyma Menna Elfyn yn son mwy wrth ddarllenwyr Golwg360 am waith Wales PEN Cymru a digwyddiad ‘Dwyn Tysiolaeth’ yn Theatr Galeri nos Sul am 7.30yh.

“Sefydlwyd PEN yn 1921, i hyrwyddo llenyddiaeth a rhyddid mynegiant. Ei nod yw cyd-gysylltu ysgrifenwyr ar draws y byd yn ogystal â chefnogi yr ysgrifenwyr hynny sy’n cael eu herlid a’u carcharu am eu gwaith. Gyda chant o ganolfannau ar draws y byd, llwydda PEN i weithio a rhyng-weithio ar draws pum cyfandir. Mae’n sefydliad anwleidyddol, yn elusen ond hefyd wedi ennill statws ymgynghorol arbennig gyda’r Cenhedloedd Unedig fel y sefydliad hawliau dynol hynaf sy’n bodoli.

Fel gwlad fechan, mae Cymru bellach drwy sefydlu Wales PEN Cymru, wedi cyd-gysylltu â’r corff sy’n gweithio  ledled y byd. Eisoes trefnwyd digwyddiadau i hyrwyddo a gwella’r dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd o safbwynt ysgrifenwyr mewn rhai gwledydd. Ei nod yn ei ddyddiau cynnar yw parhau’r ddeialog a chodi ymwybyddiaeth o’r  anawsterau a gyfyd yn sgil rhyddid mynegiant. Nod Cymru PEN Wales yw rhannu syniadau gan uno ysgrifenwyr  beth bynnag fo eu diwylliant, iaith neu farn wleidyddol. Gweithreda yn annibynnol o lywodraeth neu gorff a ariennir gan y llywodraeth.

Gobaith y digwyddiad yn Galeri yw dwyn tystiolaeth o’r hyn sy’n digwydd i newyddiadurwyr ac ysgrifenwyr ar draws y byd a thrwy rannu tystiolaeth, gyfrannu at y ddeialog barhaus sydd o’r pwys mwyaf heddiw.

Dylai ysgrifenwyr sy’n dymuno bod yn aelodau o Wales PEN Cymru gysylltu â:

www.walespencymru.org

walespencymru@gmail.com

Am ragor o wybodaeth am holl ddigwyddiadau #PenwythnosINC:

http://www.galericaernarfon.com/digwyddiadau/digwyddiadau.php