Osian Rowlands Bardd y gadair

Pymtheg yn cystadlu am y Gadair yn Llanegryn


“Terfyn” oedd testun cystadleuaeth y gadair eleni a’r enillydd teilwng oedd Osian Rowlands o Landwrog, “sy’n  gynganeddwr hynod, hynod o feistrolgar” ym marn y beirniad llenyddiaeth Arwel Roberts. Canmolodd safon y gystadleuaeth yn gyffredinol gan ddweud fod “fflachiadau o wreiddioldeb barddol” ymhob cerdd a bod y beirdd “â gafael sicr ar y Gymraeg.” Yn ystod y seremoni seiniwyd y corn gwlad gan Lewis Hughes, cyrchwyd Osian Rowlands i’r llwyfan gan Rhys ac Eirug, cyfarchwyd ef gan Sulwyn Jones a Bethan Davies a chanwyd cân y cadeirio gan Gwilym Bryniog.


Canu Emyn dros 60 - Arthur Wyn Parry Groeslon

Cafwyd cystadlu brwd drwy gydol y dydd a phlesiwyd y beirniaid Robat Arwyn, Ann Fychan ac Arfon Williams gyda’r safon. Braf oedd gweld cymaint o blant Ysgol Llanegryn ar y llwyfan ymhlith cystadleuwyr eraill a ddaeth o bell ac agos, ac roedd arddangosfa ardderchog o waith Celf disgyblion Cynradd ac Uwchradd yr ardal yn y Neuadd. Diolch i Jane Barraclough ac Eleri Davies am gloriannu’r gwaith yma. Llwyddodd yr arweinyddion sef Janet Pugh, Mair Rees ac Edward Jones i greu awyrgylch gartrefol ac roedd cyfeilio medrus Tudur Jones (piano) ac Eirian Jones (telyn) yn gefn i’r cystadleuwyr.


Her unawd, 1af Rhys Jones 2il Meilyr Wyn Jones 3ydd Alwyn Evans

Y llywydd eleni oedd Mr Haydn Rees, Penywern a chafwyd y pleser o’i gwmni am ran helaeth o’r dydd yn ogystal ag araith bwrpasol yng nghyfarfod yr hwyr. Dymuna’r pwyllgor ddiolch o galon am bob cyfraniad, cymorth a chefnogaeth a sicrhaodd lwyddiant y diwrnod.


deuawd dan 12 Beca Fflur a Anest Eurig


Cystadleuaeth Buddugol
Unawd Meithrin a Derbyn Liwsi Roberts, Meifod
Llefaru Meithrin a Derbyn Alison Beard, Tywyn
Unawd Blwyddyn 2 ac Iau Nansi Rhys, Caerdydd
Llefaru Blwyddyn 2 ac Iau Nansi Rhys, Caerdydd
Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 2 ac Iau Nansi Rhys, Caerdydd
Unawd Blwyddyn 3 a 4 Erin Aled, Llanuwchllyn
Llefaru Blwyddyn 3 a 4 Owain John, Llansannan
Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 3 a 4 Beca Jarman, Llanuwchllyn
Parti Cerdd Dant Ysgol Gynradd Llanegryn
Parti Llefaru Ysgol Gynradd Llanegryn
Parti Deulais Ysgol Gynradd Llanegryn
Unawd Blwyddyn 5 a 6 Cai Fôn, Talwrn
Llefaru Blwyddyn 5 a 6 Beca Fflur, Aberystwyth
Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 5 a 6 Cai Fôn, Talwrn
Alaw Werin Blwyddyn 6 ac Iau Cai Fôn, Talwrn
Deuawd Blwyddyn 6 ac Iau, Beca Fflur ac Anest Eurig, Aberystwyth
Unawd Blwyddyn 7 i 9 Arwen Elysteg, Brithdir
Llefaru Blwyddyn 7 i 9 Bethany Jones, Llyn Penmaen
Cystadleuaeth Buddugol
Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 7 i 9 Arwen Elysteg, Brithdir
Unawd Piano Blwyddyn 9 ac Iau Erin Aled, Llanuwchllyn
Unawd Offeryn Cerdd dan 20 oed Heledd Besent, Pennal
Unawd dan 25 oed Angharad Rowlands, Dinbych
Llefaru dan 25 oed Heulen Cynfal
Unawd Sioe Gerdd Elin Tomos, Pentre Ucha’ a

Heledd Besent, Pennal

Canu Emyn dros 60 Arthur Wyn Parry, Groeslon
Unawd Cerdd Dant Elin Tomos, Pentre Ucha’
Deuawd Eisteddfodau Cymru Rhys Jones a Heledd Besent
Cân Werin Angharad Rowlands, Dinbych
Parti Llefaru Merched Madyn, Llanegryn
Unawd Gymraeg Rhys Jones, Cemaes
Her Unawd Rhys Jones, Cemaes
Parti Canu Parti Cymdeithas Llanegryn



Cai Fon Talwrn

Llenyddiaeth

Cystadleuaeth Buddugol
Rhyddiaith Blwyddyn 7 – 9 Nia Morris, Ysgol Uwchradd Tywyn
Rhyddiaith Blwyddyn 10 – 11 Ffion Ellis, Ysgol Uwchradd Tywyn
Rhyddiaith dan 25 Elliw Haf Pritchard, Y Groeslon
Cyfieithu Gwilym Hughes, Mynytho
Rhyddiaith Agored John Meurig Edwards, Aberhonddu
Cystadleuaeth Dysgwyr Nia Haf Jones, Rhuthun
Y Gadair Osian Rowlands, Llandwrog
Englyn Gwen Jones, Aberhosan
Telyneg John Meurig Edwards, Aberhonddu
Limrig John T. Jones, Llanuwchllyn ac

R. Gwynedd Jones, Rhuthun